×

£8.99

Shifts
[9781854111999]

Shifts
Darlun o ddadfywiad o fewn cymdeithas o ganlyniad i ddirywiad diwydiannol yng nghymoedd y de a geir yn ‘Shifts’. Drwy naratif y pedwar prif cymeriad , Jack, Keith, Rob a Judith mae’r nofel yn darlunio’r ‘shifft’ mewn gwerthoedd o fewn cymdeithas sydd yn newid. Drwy lygaid pob cymeriad cawn bortreadu o’r unigedd a gwacter ystyr sy’n deillio o gael eich dad-sgilio, eich dad-ddynoli, a’r anobaith sy’n datblygu pan fo’r hyn sy’n diffinio cymuned yn cael ddwyn i ffwrdd yn sydyn iawn. Mae’r awdur yn archwilio thema hunaniaeth drwy themau rhyw, cenedlaetholdeb a diwydiant yn y nofel ddoniol, pwerus yma.
Adolygiadau