Palas Print
Palas Print
Palas Print
Ar y Stryd Fawr ac ar Lein
On the High Street & OnLine
siop@palasprint.com 01286 674631
Deud wrth Ffrind
 
Deud wrth rywun am hwn.
Adolygiadau
Taffia
Dwi wedi bod yn ffan o waith Llwyd Owen ers pan cefais fy ng ..
5 allan o 5 Seren!
Taffia
[9781784612498]
£8.99
gan Rhian Elin George Ychwanegu: Sadwrn 07 Mai, 2016
Dwi wedi bod yn ffan o waith Llwyd Owen ers pan cefais fy nghyflwyno gan fy athrawes Gymraeg i'w gyfrol gyntaf Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau a gyhoeddywd yn ol yn 2006. Ac yn wir mae Taffia ar hyn o bryd yn un o fy hoff nofelau yn y Gymraeg.

I'r rheiny o honoch sydd fel fi wedi bod yn dilyn hynt a helynt cymeriadau Llwyd Owen, mae'n debyg y byddwch yn gyfarwydd a Ditectif Danny Finch prif gymeriad Taffia fel cymeriad ymylol yn y nofelau Mr Blaidd a Heulfan. Mae Llwyd Owen yn awdur sydd yn hoff o dreiddio i isfyd anghyfforddus ei gymeriadau - byd sy'n llawn cyffuriau, trais a thor cyfraith, a ni cheir dim yn wahanol i hyny yn Taffia. Wedi blynyddoedd o dorri ffiniau a byw ar yr ymyl yn gymdeithasol mae helyntion y Ditectif yn ei ddal i fyny, ac mae'n rhaid talu'n ddrud am hyny. Er hyny teimlaf na ellir ond cydymdeimlo a'r cymeriad wrth iddo geisio wneud yn iawn am ei gamgymeriadau drwy adeiladu bywyd hapus a thawel i'w wraig a'i blentyn...ond fe fyddai hyny yn rhy hawdd yn bydda.

Yn ogystal a gallu creu cymeriadau unigryw sy'n llawn stori, un o gryfderau mwyaf Llwyd Owen fel awdur yw ei arddull. Mae'n llwyddo i ysgrifennu'n gynnil a ffraeth ac mae hyn yn ychwanegu at fwrlwm anturus y nofel. Dyma nofel anturus sy'n llawn cyffro, ac sy'n siwr o wneud i chi fod isio gwybod mwy am dynged y Ditectif.

Graddfa: 5 allan o 5 Seren! [5 allan o 5 Seren!]
Yn ôl Sgwennu Adolygiad

Ychwanegu at y Fasged

Categorïau
Basged Siopa
0 eitemau
twitter facebook

Cludo a Dychwelyd | Rhybudd Preifatrwydd | Telerau Defnyddio | Rhestr Lawn Awduron

Hawlfraint © 2017 Palas Print
10 Stryd y Plas · Caernarfon · Gwynedd · LL55 1RR · 01286 674631
Gwefan yn rhedeg osCommerce