14 - 01 - 23 02 : 00pm Lle Arall, Stryd y Plas, Caernarfon Rhai i Bopeth Newid Sgwrs rhwng Dafydd Morgan Lewis, (Y Golygydd) ac Angharad Tomos
WEDI CANSLO 16 - 12 - 22 08:00pm Clwb Rygbi Caernarfon Nigel Owens - The Final Whistle
Yn anffodus mae'r noson wedi ei ganslo. Yr ydym yn trefnu i Nigel llofnodi'r llyfr efo neges (os da chi yn dymuno)
Os da chi wedi prynu tocyn ac am cael llofnod a neges ar eich llyfr cysylltwch a ni trwy e bost. eirian@palasprint.com
Os nad oeddech wedi prynu tocyn ac isho llyfr efo llofnod cysylltwch a ni yn y siop neu ar e bost eirian@palasprint.com
Ail ran hunangofiant Nigel Owens, un o ddyfarnwyr rygbi enwoca'r byd ac un o'r ddau ddyfarnwr Cymreig i ddyfarnu gêm derfynol Cwpan Rygbi'r Byd. Cynhwysir hanes llawn ei daith yn ystod ei bencampwriaeth byd olaf - Cwpan Rygbi'r Byd 2019.
Cost £20 yn cynnwys copi o'r llyfr (wrth archebu nodwch os am ddod i'r digwyddiad) Prynu
Dathlu #palasprint20
Mae Palas Print yn 20 oed, ac roeddem eisiau nodi'r achlysur drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau gydag awduron a llyfrau sy'n golygu rhywbeth i ni, neu sy'n adelwyrchu'r hyn 'da ni wedi geisio ei neud ar hyd y blynyddoedd. Bydd 'na fwy yn y misoedd i ddod, ond dyma gychwyn gyda cyfres o ddigwyddiadau rhwng 8ed a 17eg Medi. Gobeithio cael eich cwmni ar gyfer y digwyddiadau isod, a diolch o galon i chi am eich cefnogdaeth ar hyd y blynyddoedd. Eirian a Sel
Nos Iau 08 - 09 - 22
6:30yh Palas Print Mair ac Angharad Price yn trafod cefndir O! Tyn y Gorchudd
Enillodd O! Tyn y Gorchudd Medal Ryddiaith Eisteddofd Sir Benfro 2002, cwta fis ar ôl i ni agor y siop. Wnes i ddim cynnal digwyddiad ar y pryd - doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynd ati, ac ro'n i'n rhy swil i ofyn i Angharad! Ugain mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfle i ddathlu'r gyfrol wych hon, sy'n dal i hawlio'i lle yn fy 10 uchaf personnol, yng nghwmni Angharad a'i mam, a fagwyd yn Maesglasau, Sir Feirionnydd, lleoliad canolog y gyfrol.
Digwyddiad am ddim, ond gwerthfawrogir cyfraniad i Gronfa Apêl Caernarfon, Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023 Prynu
Dydd Sadwrn 10 - 09 - 22
10:00yb Palas Print Panad a Sgwrs
Ers nifer o flynyddoedd da ni wedi mwynhau croesawu criw o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg i ymgynnull i am sgwrs dros baned mewn awyrgylch gyfeillgar, diogel a chefnogol, ac wedi mwynhau gweld dysgwyr yn datblygu a chroesi'r bont i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, hyderus a balch. Wrth gwrs, dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, da ni wedi colli gweld pobl a chlywed eu sgyrsiau, a da ni'n hapus iawn i groesawu pobl yn ôl i'r sesiwn anffurfiol hon.
11:00yb Gerddi'r Emporiwm Palas Print Ifor ap Glyn a Hanan Issa
Dau fardd Cenedlaethol yn Palas Print… a ddim am y tro cyntaf (ond stori arall 'di honno)! Ar hyd y blynyddoedd, da ni wedi cynnal nifer fawr o nosweithiau gyda beirdd lleol a rhyngwladol yn y siop ac yn yr ardd, yn aml mewn partneriaeth gyda Ty Newydd neu Adran Saesneg Prifysgol Bangor, neu PEN Cymru. Mae Ifor yn hen gyfarwydd â pherfformio yn y siop ac yng ngardd Palas Print, a braf yw ei groesawu yn ôl i'r ardd. Hwn fydd ei berfformiad olaf swyddogol fel Bardd Cenedlaethol Cymru cyn iddo drosgwylddo'r awenau i ddwylo diogel Hanan Issa yn Nhy Newydd yn y pnawn. Da ni'n falch iawn i groesawu'r ddau i'r ardd i gyflwyno eu cerddi i chi
12:00yp Gerddi'r Emporiwm Palas Print Capten Meinir Pierce Jones
Mae 'na gyffro yn y siop bob Steddfod wrth i ni ddisgwyl i glywed a oes rhywun wedi ennill prif wobrau llenyddol yr Wyl, ac a fydd 'na deilyngdod (a chyfrol newydd i'w ddarllen a'i werthu) yng nghystadleuaeth 'y Daniel' a'r Fedal Ryddiaith. Dw i'n bersonol wrth fy modd gyda'r dirgelwch o gwmpas y cyhoeddi, ac yn gwrando'n astud ar y feirniadaeth yn croesi mysedd y bydd 'na enillydd, ac yn eiddgar i agor bocsus o lyfrau pan fydd yr Archdderwydd (gobeithio) yn cyhoeddi enw'r enillydd. Chafon ni ddim ein siomi eleni eto, a braf iawn yw croesawu Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 i'r ardd i sgwrsio am ei nofel hanesyddol sydd wedi cael canmoliaeth uchel iawn gan dau o'r beirniaid, a nifer fawr o gwsmeriaid... dewch i glywed mwy am y nofel ac i holi'r awdur. Prynu
2:00yp Gerddi'r Emporiwm Palas Print Charlotte Williams Sugar and Slate
Un o'r digwyddiadau cyntaf i mi drefnu yn Palas Print oedd noson yng nghwmni Charlotte Williams, awdur Sugar and Slate, llyfr wnaeth argraff ddofn arnaf pan wnes i ei ddarllen nol yn 2002. Roedd y trefniadau (o'm ochr i) ychydig yn flêr! Doedd 'na ddim PA, dim cadeiriau, dim llwyfan... a doedd gen i ddim syniad a fyddai unrhywun yn troi allan... roedd y siop fach yn orlawn, (ro'n i wedi gwahodd pawb o'n i'n nabod), a'r awduron wedi'i sgwasho i gornel yng nghefn y siop i berfformio. Mi wnaethom redeg allan o win a diod ysgafn, ond cafwyd noson lwyddiannus iawn, a'r awduron i gyd yn hapus (dw i'n meddwl) a'r gynulleidfa wedi gwerthfawroi'r cyfle i glywed awduron yn siarad am eu llyfrau.
20 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Sugar and Slate yn cael ai ail-gyhoeddi, ac mae'n teimlo'n amserol iawn i groesawu Charlotte yn ôl i drafod ei hunangofiant a enillodd Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Prynu
3:30yp Gerddi'r Emporiwm Palas Print Adar mewn ffuglen a ffaith Jon ag Onwy Gower
Dwi'n cofio Onwy yn dod i Gwyl Arall gyda'i thad, ac yn syth bin eisiau helpu mas... mi wnaethom ei chadw'n brysur drwy'r penwythnos! Mi wnaeth hi son wrtha i ar y pryd, pan oedd hi'n 8 oed am syniad oedd ganddi am lyfr. Braf iawn oedd cael gwybod ganddi flwyddyn yn ddiweddarach bod y llyfr ar ei ffordd a chael cais ganddi i gynnal digwyddiad i ddathlu cyhoeddi'r gyfrol yn y siop, ac am ddigwyddiad hyfryd sy'n sefyll yn y cof am sawl rheswm. Mae Jon hefyd wedi bod mor barod ar hyd y blynyddoedd i neidio ar y tren i ddod i Palas Print ac i Gwyl Arall, ac i Pontio i gymryd rhan mewn cynifer o ddigwyddiadau, ac mae'n braf croesawu'r ddau yn ôl i drafod Adar mewn Ffuglen a Ffaith
Cyfle i glywed yr awdur Jon Gower yn trafod sut mae adar yn hedfan drwy ei waith tra bydd Onwy Gower yn cyflwyno'r ffeithiau amdanynt allan o Llyfr Adar Mawr y Plant. Prynu
Dydd Iau 15 - 09 - 22
6:30yp Palas Print The Very Rough Guide to Wales Mike Parker
Ugain mlynedd yn ôl, tra mod i'n trio dysgu sut i redeg siop lyfrau, roedd Mike Parker yn gorffen ei cyfnod o ddegawd o sgwennu a golygu The Rough Guide to Wales. Roedd y gwahaniaeth rhwng y fersiwn hwnnw o'r wlad a'r wlad go iawn yn mynd yn rhy fawr iddo, ac ers hynny mae wedi trafod sut mae o'n gweld y wlad ar y teledu ac ar y radio, acf wedi sgwennu amdano mewn llyfrau fel On the Red Hill, Neighbours from Hell?, The Greasy Poll a Map Addict. Mae Mike wedi bod yn gefnogol iawn i ni ar hyd y blynyddoedd, ac wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad yn y siop ac yn Gwyl Arall, a braf yw ei wahodd yn ôl i roi sgwrs gyda lluniau i ni sy'n wibdaith trwy Gymru sy'n newid - y Gymru go iawn! Neu mor real ag sy'n bosib i unrhywun ei gael…
Dydd Sadwrn 17 - 09 - 22
10:30yb Palas Print The Half-Life of Snails Philippa Holloway
Da ni'n aml yn cael cais, gan gyhoeddwr, gan awdur, gan gerddor, gan gwsmer neu gan ffrind, i drefnu digwyddiad yn y siop, ac ar hyd y blynyddoedd, lle bo'n addas a phosib, da ni wedi trio'n gorau i groesawu a galluogi eraill i ddefnyddio'r gofod i gynnal digwyddiad. Felly pan wnaeth ffrind i Sel a'r siop ofyn fysa ni'n fodlon trefnu digwyddiad gyda Philippa Holloway ar ôl iddo'i chlywed hi'n siarad, wel dyma benderfynu ei gwahodd i'r siop i son am y nofel, The Half-Life of Snails. Dewch i glywed yr awdur yn siarad am ei nofel sy wedi ei osod yn rhannol yn Ynys Môn ac am yr ymchwil a wnaeth yn Wcrain ac ym Mhrydain wrth fynd ati i sgwennu am ddwy ochr y ddadl niwclear.Prynu
12:00yp Palas Print Rhyngom Sioned Erin Hughes
Mi gychwynais y gyfres hon o ddigwyddiadau gydag enillydd Medal Ryddiaith 2002, ac felly mae'n teimlo'n briodol iawn ein bod yn gwahodd enillydd Medal Ryddiaith 2022 i gymryd rhan yn y gyfres hon o ddigwyddiadau hefyd. Mae sawl cyfrol sy wedi ennill y Fedal yn sefyll yn y cof, ac ar fy silff ffefrynnau am yn hir iawn, a gwn bydd Rhyngom yn fy 10 ucha am flynyddoedd i ddod. Dewch i longyfarch Erin ac i'w chlywed yn sgwrsio am ei chyfrol ysgubol. Prynu
Wedi Bod
Nos Iau 28 - 07 -22 Gerddi'r Emporiwm Palas Print 6:30 £7.00 ar y drws Gig yn yr Ardd Gwen Máiri
Nos Iau 14 - 07 -22 Gerddi'r Emporiwm Palas Print 6:30 £7.00 ar y drws Gig yn yr Ardd Dafydd Owain
18 - 06 - 22 Sadwrn 10:30 Palas Print, Am ddim
Barddoniaeth mewn Trosiadau Trawsatlantig Da ni'n falch iawn i groesawu’n ôl Víctor Rodríguez Núñez Un o feirdd cyfoes amlycaf Cuba. efo Grug Muse & Iestyn Tyne yn cyfieithu Katherine M. Hedeen Toronto Experimental Translation Collective https://tetcollective.com/
Mae gan y bardd Ciwbaidd Víctor Rodríguez Núñez dros saith deg o gasgliadau o'i farddoniaeth wedi'u cyhoeddi ledled y byd. Mae wedi derbyn gwobrau sylweddol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae ei gerddi dethol wedi eu cyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd. Ei lyfr diweddaraf mewn cyfieithiad Saesneg yw from a red barn (co•im•press, 2020) Mae'n rhannu ei amser rhwng Gambier, Ohio, lle mae'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon, a Havana, Ciwba. Mwy o wybodaeth: www.victorrodrigueznunez.com
25 - 05 - 22 6:30 Palas Print, Am ddim
Dathlu Cyhoeddi Pridd Llyr Titus yng nghwmni Angharad Price
Ymunwch â ni - yn yr ardd os yw hi'n braf - am noson anffurfiol i ddathlu cyhoeddi PRIDD, gan Llyr Titus. Angharad Price fydd yn holi'r awdur am ei nofel newydd drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith. Croeso cynnes i bawb.... ac os na fedrwch ddod a'ch bod eisiau copi wedi'i lofnodi gan yr awdur, achebwch isod, neu cysylltwch â'r siop.
04 - 12 - 21 11:00 Palas Print
Sesiwn lofnodi! 100 Cymru gan Dewi Prysor
Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi: eirian@palasprint.com
Sesiwn lofnodi! Yn Fyw yn y Cof gan John Roberts Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi: eirian@palasprint.com
Sesiwn lofnodi! Hela gan Aled Hughes Palas Print yn yr ardd Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi: eirian@palasprint.com
25/09/21, 2:00
Sesiwn lofnodi! Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel Palas Print yn yr ardd Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi: eirian@palasprint.com
18/09/21, 5:30pm Dathlu cyhoeddi, yn fyw ac yn rhithiol The Welsh Way
10/06/21, 7.30pm
Palas Print a Honno Welsh Women's Press yn cyflwyno
Noson rithiol i ddathlu cyhoeddi Emmet and Me gyda'r awdur Sara Gethin a Mairéad Hearne. Bydd Sara yn sgwrsio gyda Mairéad Hearne, sy'n rhedeg blog llyfrau poblogaidd iawn Swirl and Thread am ei nofel newydd ddifyr Emmet and Me. Stori bwerus a theimladol am ddau blentyn a chyfeillgarwch mewn amgylchiadau caled, wedi'i osod yn Connemara yw Emmet and Me.
Nos Iau, Mehefin 10, 7.30pm yn Fyw dros Zoom am ddim wrth brynu copi wedi ei lofnodi (bookplate), neu £3 am y digwyddiad yn unig (gellir adennill y £3 wrth brynu copi o'r llyfr o Palas Print ar ôl y digwyddiad)
Taith drwy fywyd Huw Jones, gyda digwyddiadau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol o bwys yn gefndir ir cwbl. Ceir hanes ei fagwraeth yng Nghaerdydd a'i ddyddiau yn Rhydychen. Mae'n hel atgofion am ei yrfa gerddorol ac am sefydlu Sain, ac mae'n croniclor cyfnodau o weithio ym myd teledu ac yn arbennig ei gyfnod yn Brif Weithredwr S4C.
Cynhalwyd nifer o ddigwyddiadau ar lein yn ystod wythnos siopau llyfrau annibynnol ac isod mae recordiadau or digwyddiadau. mwynhewch Byddwn yn trefnu mwy o ddigwyddiadau rhithiol maes o law.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad. Byddwn yn cymeryd eich bod chi'n iawn gyda hyn, ond gallwch ddewis allan os dymunwch.DerbynDarllen Mwy