Rhestr Fer Iaith Saesneg / English Language Short List


10 Stories from Welsh History
A highly visual and factual book with the aim of encouraging children to discover and learn more about 10 stories from Welsh history. Includes:- (1) Gwenllian Ferch Gruffudd; (2) Owain Glyndwr; (3) Black Bart; (4) Dic Penderyn / Merthyr Rising; (5) Alfred Russel Wallace; (6) Penrhyn Strike; (7) Race Riots 20th Century; (8) Eileen Beasley; (9) Aberfan; (10) Devolution.

Welsh fairy Tales,
Myths & Legends
Claire Fayers
Enjoy Wales's rich heritage of myths and fairy tales, re-told for young readers. From magical Welsh dragons that destroy a castle night after night, to a princess made out of flowers and a fairy changeling brother; from loyal hunting hound Gelert, to a boy who asks questions and goes on to become the greatest Welsh bard ever known.



Rhestr Fer Oedran Cynradd / Welsh Language Primary

Gwag y Nos
Sioned Wyn Roberts
‘Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’ Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae’n uffern.

Gwil Garw
Huw Aaron
Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd…GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i'w dymer a'i chwilfrydedd roi'r byd mewn perygl, mae'n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau.

Sara Mai a lleidr y Neidr
Casia Wiliam
Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.
Rhestr Fer Oedran Uwchradd

Fi ac Aaron Ramsey
Manon Steffan Ros
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae eu perthynas fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

Y Pump
Set focs o bump nofel fer sy'n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.
Rhestr Fer Iaith Saesneg