Argymhellion

Casa dolig

Yn dilyn llwyddiant ysgubol llyfr coginio cyntaf yr awdures a'r actores Rhian Cadwaladr, mae 'na gryn edrych ymlaen at weld cyhoeddi'r llyfr hardd a defnyddiol hwn. Bydd yn dilyn yr un patrwm â Casa Cadwaladr ond yn cyflwyno ryseitiau fydd yn addas ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Cyfle unwaith eto i Rhian rannu atgofion a ryseitiau. Gyda lluniau gan Kristina Banholzer.

Curiadau

Blodeugerdd LHDTC+ flaengar a chyffrous yw Curiadau, a'r cyntaf o'i math yn yr iaith Gymraeg. Gareth Evans-Jones yw'r golygydd deheuig sydd wedi casglu'r amrywiaeth trawiadol o dalent LHDTC+ ynghyd. Yn y casgliad arbennig hwn fe ffeindiwch ddarnau gan feirdd, awduron a dramodwyr.

Anfadwaith

Nofel ffantasi dywyll sy'n dilyn Ithel wrth iddynt geisio mynd at wraidd dirgelwch sy'n bygwth chwalu'r deyrnas. Gyda chymorth Adwen, y porthmon, maent yn ceisio dod o hyd i'r rhai euog ond mae pob math o anfadweithiau'n digwydd cyn pen y daith.

Gwawrio
Gwawrio


£5.95

Cyfrol o gerddi gan fardd newydd, Tegwen Bruce-Deans. Mae'n cynnwys cerddi sy'n trafod natur, perthnasoedd, pobl a phob math o bethau eraill. Y mae Tegwen yn rhan o'r sîn farddoniaeth gyda beirdd ifanc beiddgar ac mae ganddi lais aeddfed sy'n amlygu ei hun yn y gyfrol fechan hon. Cynhwysir ei dilyniant o gerddi 'Rhwng Dau Le' a enillodd iddi gadair Eisteddfod yr Urdd 2023.

Cranogwen

Yn y gyfrol hon, dilynir trywydd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus.

Cwlwm
Cwlwm


£8.99

Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia, yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.

Sgen I'm Syniad

Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.

Mynd

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Marged Tudur.

Pridd

Nofel fer drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith.

Gwynt y Dwyrain (Gwobr Goffa Daniel Owen 2023)

Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred ar gael yn y siop yng Nghaernarfon nawr! … “nofel dditectif sydd yma, ac mae hi’n glincar” meddai Dewi Prysor, un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen wrth wobrwyo’r nofel. Mynnwch gopi!


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 10 (o 10 teitl)