Argymhellion

Cwlwm
Cwlwm


£8.99

Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia, yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.

Diwedd

Dyma ddilyniant i Y Düwch a Y Dial – yr olaf yn y drioleg o nofelau ditectif cignoeth Jon Gower. Mae perthynas Tom Tom a Freeman wedi blodeuo ac maen nhw’n dechrau trefnu eu dyfodol. Pan aiff nai Tom Tom ar goll mae'n teithio i'r Alban i chwilio am y myfyriwr, gan fynd i fyd tywyll a threisgar iawn.

Atgofion Drwy Ganuon Gweld Ser

Bu Siân yn plycio'r tannau ac yn canu ers dyddiau ei phlentyndod. Yma cawn ganddi hunan-ddadansoddiad clir a gonest wrth iddi olrhain cysylltiadau byd-eang yn cydweithio gyda sêr y byd gwerin. Drwy ganeuon a'u harwyddocâd cawn yma hanes y ferch o Faldwyn - weithiau'n ddoniol, weithiau'n ingol. Ac yn onest drwyddi draw.

Sgen I'm Syniad

Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.

Mori

Nofel gyfoes bwerus i oedolion - nofel gyntaf Ffion Dafis, awdur Syllu ar Walia ac actores adnabyddus.

Mynd

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Marged Tudur.

Ymbapuroli

Cyfrol o ysgrifau cywrain gan un o'r awduron mwyaf cynnil sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg heddiw, sy'n cwmpasu pynciau amrywiol megis seineg, cacennau, clirio a Karl Marx, gan ein cludo ar wibdaith o amgylch Cymru a thu hwnt.

Cymru Fydd

Cymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? I Koi a'i ffrindiau, mae'n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater.

Pridd

Nofel fer drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith.

Capten
Capten


£10.00

Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 Yng ngwanwyn 1893 mae Elin Jones yn Llŷn yn hiraethu am ei gŵr John sydd i ffwrdd ar y môr ers dros flwyddyn. Er iddi gychwyn busnes a bod ganddi ei theulu o'i chwmpas, mae'r aros yn hir ac yn anodd. Ond yna daw newydd annisgwyl am yr hyn a ddigwyddodd iddo. A hynny'n codi hen ofnau a heriau newydd...

Rhyngom (Enillydd y Fedal Ryddiaith 2022)

Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 "Dyma gasgliad crefftus, craff, sa sawl stori sy'n dyfnhau efo pob darlleniad". Dylan Iorwerth "Llwydda i dreiddio i ddyfnderoedd y cymeriadau a pheri i ni eu gweld fel pobl go iawn". Meg Elis "Lluniodd gasgliad o ymsonau sy'n cyfleu gwahanol fathau ar adnabod rhwng dau unigolyn, a chefais flas mawr ar bob un ohonynt". Eurig Salisbury


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 11 (o 11 teitl)