Cyfrol o gerddi gan fardd newydd, Tegwen Bruce-Deans. Mae'n cynnwys cerddi sy'n trafod natur, perthnasoedd, pobl a phob math o bethau eraill. Y mae Tegwen yn rhan o'r sîn farddoniaeth gyda beirdd ifanc beiddgar ac mae ganddi lais aeddfed sy'n amlygu ei hun yn y gyfrol fechan hon. Cynhwysir ei dilyniant o gerddi 'Rhwng Dau Le' a enillodd iddi gadair Eisteddfod yr Urdd 2023.
Argymhellion
Yn y gyfrol hon, dilynir trywydd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (18391916) o Langrannog, fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus.
Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia, yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.
Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.
Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred ar gael yn y siop yng Nghaernarfon nawr! … “nofel dditectif sydd yma, ac mae hi’n glincar” meddai Dewi Prysor, un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen wrth wobrwyo’r nofel. Mynnwch gopi!
Nofel fer drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith.