Nofel yw Powell am berthynas taid a'i ŵyr sy'n cyffwrdd ar berthynas Cymru gyda chaethwasiaeth, ac sy'n trafod sut i gydnabod erchyllterau ein hanes mewn ffordd sensitif. Ar ôl archwilio achau'r teulu, mae Taid ac Elis yn mynd i Virginia yn yr Unol Daleithiau i aildroedio llwybrau Edward Powell.
Argymhellion
Dyma nofel ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed. Mae'n ymdrin â pherthynas rhwng plant ysgol, bwlio, a'r syniad o gorff perffaith. Mae Beca'n cael ei bwlio, ond mae ganddi gyfrinach - mae'n gobeithio cael ei dewis i dîm nofio Cymru.
Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.
Stori ddirgel gyda thwist ffantasïol. Nid yw Betsan Morgan yn edrych ymlaen at dreulio wythnos gyda'r ysgol ym Mhlas yr Hydd. Mae ei ffrind gorau gartref yn sâl, a hithau'n gorfod mynd yno i ganol plant dieithr, i aros ar ei phen ei hun. Ond ar ôl cyrraedd y plas, mae Betsan yn darganfod ei bod yn gallu symud yn ôl i'r gorffennol a byw yn oes ei hen-hen-hen-nain.
Mae Rygbi Rhempus yn llawn ffeithiau difyr a doniol; yn rhoi cip ar hanes y gêm, a'i rheolau ac (yn bwysicaf oll) yn cyfleu ysbryd ac angerdd y gêm wych hon.