Argymhellion

Hedyn

Dyma nofel gyntaf yr awdures doreithiog ar gyfer yr oed yma. Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu, hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy'n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion. Addas ar gyfer plant 9-12 oed.

Seed

Stori ddoniol a theimladwy am rym gobaith a dychymyg pan gredwch yn yr amhosibl yw Seed gan yr awdur arobryn Caryl Lewis. Perffaith ar gyfer darllenwyr 8-12 oed. Arlunwaith du a gwyn gan George Ermos.

Sara Mai a Lleidr Y Neidr

Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.

Quilt, The

Mae'r teulu bach yn gadael Cymru ac yn mynd i chwilio am fywyd gwell yn America bell. Dyma'r gyfrol gyntaf i Valériane sgwennu'r stori a chreu'r lluniau. Wedi'i gyhoeddi yn Gymraeg hefyd (ISBN: 9781784617974)

Flying Bedroom

Casgliad o chwe antur ffantasi am ferch o'r enw Elinor sy'n hedfan yn ei hystafell wely i fydoedd hud a lledrith - i ynysoedd trofannol a hyd yn oed i'r lleuad - pan fydd hi'n cysgu.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 5 (o 5 teitl)