Dyma stori liwgar arall am Cadi, a'i brawd bach, Mabon. Y tro hwn mae'r ddau'n cael eu cipio ar long oddi ar draeth yn Sir Benfro, ac yn dysgu gwers bwysig iawn: ni ddylid barnu pobl yn ôl eu golwg. Ond sut maen nhw'n llwyddo i ddianc rhag yr octopws anferth? Llyfr bendigedig, clawr caled.
Argymhellion
Mae Smot yn chwarae yn yr eira - defnyddiwch y pyped i ymuno yn yr hwyl!
Dyma'r llyfr perffaith i helpu pob Poenisawrws bychan i ddod dros eu hofnau ac i fod yn hapus yn y foment.
Stori ddoniol am gofleidio'r annisgwyl! Croeso i'r Antarctig, ble mae criw dewr ar antur yn astudio pengwiniaid... Ond mae un anturiaethwr ifanc wedi darganfod rhywbeth gwahanol. Rhywbeth hollol wyllt, rhyfeddol o cŵl a sydd, a dweud y gwir, wedi marw. A fydd unrhyw un yn ei gredu?! Fyddet TI? Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o destun Alex Willmore.
Nofel gyntaf yr awdures a'r arlunydd, Luned Aaron, wedi'i hanelu at blant oed cynradd (7-9 oed). Mae'r nofel yn dilyn hanes Mira - chwaer fawr gydwybodol a pheniog - wrth iddi ddechrau tymor newydd yn yr ysgol. Sut fydd Mira yn ymdopi ym Mlwyddyn Tri, heb gwmni Non, ei ffrind gorau? A phryd, o pryd, fydd ei dant gyntaf yn dod allan?!