Argymhellion Nadolig

Cynan A'r Bluen Eira

Sorry, no synopsis is currently available.

Bwystfilod Bach

Sorry, no synopsis is currently available.

Dweud Yr Amser Gyda Cadi a Jac

Llyfr bwrdd bywiog sy’n dilyn diwrnod ar fferm Cae Berllan wrth i Cadi a Jac a’r darllenwr ddysgu dweud yr amser. Mae pob tudalen yn dangos gweithgaredd gwahanol, yn ogystal â'r amser pan fo'r gweithgaredd yn cael ei gwblhau. Gall y darllenydd droi'r bysedd ar wyneb y cloc er mwyn dangos yr amser.

Dere I Dyfu

Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.

Dyn Dweud Drefn Yn Chwarae Pel Droed

Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?

Cadi A'r Gwrachod

Dyma lyfr arall yn y gyfres boblogaidd am Cadi, y ferch fach ddireidus. Mae Cadi yn gwneud rhywbeth ofnadwy i Mabon, ei brawd bach ac mae'n rhaid iddi ofyn am help gan y gwrachod. Ond yn gyntaf, rhaid i Cadi eu helpu nhw. Stori berffaith ar gyfer Noson Calan Gaeaf!

Chwedl Y Calaffate

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia – wyt ti eisiau clywed pam?

Lloches

Wrth i storm o eira ddod yn nes, daw dau ddieithryn o'r goedwig niwlog. O ffenestri eu tai, mae'r cymdogion yn pendroni: Pwy sydd y tu allan? Beth maen nhw ei eisiau? Yn ysu am gysgod, mae'r dieithriaid yn troi at y trigolion lleol, gan obeithio y bydd rhywun yn cynnig lloches iddyn nhw. A fydd unrhyw un yn helpu? Addasiad Cymraeg gan Aneirin Karadog o L'abri.

Fy Llyfr Englynion

Dyma gyfrol sy'n gasgliad gwerthfawr ac unigryw o englynion i blant gan wahanol feirdd. Mae pob un o'r 22 englyn yn dweud stori neu'n disgrifio, rhai yn englynion y gall plant yr oed hwn uniaethu â hwy a rhai englynion traddodiadol sy'n debygol o fod ar gof cenedlaethau o blant. Yn ogystal, ceir geirfa a nodiadau i helpu'r darllenwyr ifanc.

Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel

Dydy Ffion y ffermwraig ddim yn gallu mynd ar ei gwyliau, oni bai ei bod hi'n mynd â'r holl wartheg gyda hi. Does dim amdani felly ond gwyliau gwirion i bawb!

Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd

Mae'r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac yn dwrdio'n waeth nag erioed! Mae wedi mynd ar ei drafyls i Ewrop, i ddilyn helyntion tîm pêl-droed Cymru! Ond gwyliwch chi eich hunain, gefnogwyr Cymru, mae'r Dyn Dweud Drefn ar eich sodlau, yn barod i ddwrdio!

Nadolig yn y Cartref

Dyma drysor o gyfrol liwgar a chwareus i'w mwynhau yn y dyddiau cyn y Nadolig, a hynny ar ffurf odl a llun. Yn ogystal â dangos rhai o elfennau cyfarwydd yr ŵyl i blant, mae rhai o'r traddodiadau llai cyfarwydd, syml a Chymreig, yn cael eu cyflwyno yma hefyd.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 12 (o 12 teitl)