Argymhellion

Trwbwl Dwbwl Dyddiadur Dripsyn 11

Mae'r pwysau'n cynyddu ar Greg Heffley. Mae ei fam yn credu bod gemau cyfrifiadur yn troi ei frên yn sdwnsh. Felly mae hi am i'w mab roi'r gemau heibio a darganfod ei ochr greadigol. Ac os nad ydy hynny'n ddigon i godi braw ar rywun, mae hi bron yn Galan Gaeaf ac mae pethau'n dychryn Greg o bob cyfeiriad. Caiff syniad pan ddaw o hyd i fag o fferins siâp pryfed genwair.

Nye

Dyma stori ysbrydoledig y bachgen swil o Dredegar a ddaeth yn un o wleidyddion pwysicaf Prydain. Dilynwn ei siwrne o'r pwll glo i Dŷ'r Cyffredin, ynghyd â sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS). Cyflwynir y stori mewn iaith syml a chlir, gyda darluniau hyfryd. Perffaith i'w ddarllen gyda phlentyn, neu ar gyfer darllenwyr newydd.

Arglwydd Y Fforest

Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae'n dweud wrth ei fam am y synau o'i gwmpas mae hi'n ei atgoffa 'Pan na fyddi di'n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!' Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod? Addasiad Cymraeg Mererid Hopwood o Lord of the Forest.

Cynghanedd I Blant

Llyfr lliwgar a hwyliog sy'n dysgu'r grefft hynafol o gynganeddu i feirdd bach y byd!

Siani Pob Man

Wedi ei guddio ym mae prydferth Ceredigion rhwng Cei Newydd ac Aberaeron mae traeth bach hudolus Cei Bach. Yn nrws y bwthyn igam-ogam mae hen fenyw yn eistedd gyda phib yn ei cheg a chlocs ar ei thraed. Dyma'r enwog Siani Bob Man. Stori am gymeriad anarferol gyda darluniau gwreiddiol gwych yr artist talentog Valériane Leblond.

Hedyn

Dyma nofel gyntaf yr awdures doreithiog ar gyfer yr oed yma. Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu, hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy'n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion. Addas ar gyfer plant 9-12 oed.

Bwystfil A'r Betsan Sioe Fawr y Bwystfil

Addasiad Cymraeg gan Elidir Jones o The Beast and the Bethany: Revenge of the Beast gan Jack Meggitt-Phillips.

Sara Mai a Lleidr Y Neidr

Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.

Peldroed Penigamp

Pêl-droed Penigamp yw'r ail lyfr yn y gyfres Campau Campus. Efallai mai'r disgrifiad gorau ohonyn nhw yw math o 'Horrible Histories' neu 'Hanesion Hyll' ar gyfer camp sydd â nifer anhygoel o gefnogwyr iddi.

Cranogwen Bywyd Arloesol Sarah Enwogion o Fri

Dyma stori am ferch benderfynol wnaeth ddarganfod bod unrhyw beth yn bosib, a hynny mewn cyfnod lle nad oedd cyfleoedd cyfartal i ferched. O hwylio llongau i ennill gwobrau fel bardd, roedd bywyd Cranogwen yn llawn amrywiaeth a chyffro.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 10 (o 10 teitl)