Argymhellion Nadolig

Mynydd I'w Ddringo

Dyma ni, trip yr Adran Iau. Mae bag ar bob cefn, cap neu ddau, mynydd o’n blaenau a’r gair mawr ydi MWYNHAU! Ie, taith gerdded Dosbarth Dau, ond ydyn nhw’n mwynhau? Cyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd ddigri gan Myrddin ap Dafydd.

10 stori o hanes Cymru (y dylai pawb eu gwybod)

Nod y llyfr hynod weledol a ffeithiol hwn yw annog plant i ddarganfod a dysgu mwy am ddeg stori o hanes Cymru. Cynhwysir hanesion am Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glynd Barti Ddu; Dic Penderyn a Therfysgoedd Merthyr; Alfred Russel Wallace; Streic y Penrhyn; Terfysgoedd Hil yr 20fed ganrif; Eileen Beasley; Trychineb Aberfan a Datganoli. Darluniwyd gan Telor Gwyn.

Crwt yn y Cefn, Y

Stori am gyfeillgarwch, gobaith a phwysigrwydd caredigrwydd, dyma lyfr llawn cariad a hiwmor, wedi'i adrodd o berspectif unigryw. Pan ddaw bachgen newydd i ymuno â'r dosbarth, mae grŵp o blant eisiau bod yn ffrindiau ag ef. Addasiad Cymraeg gan Bethan Mair o The Boy at the Back of the Class.

Llyfr Adar Mawr y Plant

Llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru, wedi ei ddylunio'n ddeniadol, gyda tudalen ddwbl i bob aderyn, yn cynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu'n arbennig ar gyfer y gyfrol. Cynhwysir ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab ynghyd â geirfa ddefnyddiol.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 4 (o 4 teitl)