Argymhellion

Dros Y Mor A'r Mynyddoedd

Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

Arglwydd Y Fforest

Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae'n dweud wrth ei fam am y synau o'i gwmpas mae hi'n ei atgoffa 'Pan na fyddi di'n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!' Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod? Addasiad Cymraeg Mererid Hopwood o Lord of the Forest.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 2 (o 2 teitl)