Yn y gyfrol hon, mae'r hanesydd Elin Jones yn dangos bod olion gorffennol Cymru o’n cwmpas heddiw. Mae’n mynd â ni ar daith weledol drwy dros 5,000 o flynyddoedd o hanes ac o gwmpas Cymru gyfan. Llyfr hanfodol ar hanes Cymru i bob ysgol, disgybl ac athro
Argymhellion
Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?
Disgwyliwch yr annisgwyl yn y gyfrol ddifyr hon o straeon byrion sydd i gyd â thro yn y gynffon!
Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.
Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae’r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda’i wersi bywyd tyner sy’n ein hatgoffa o gyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith.
Dyma Harri Parri ar ei orau yn cyflwyno deg portread o bobol unigryw pobol sydd wedi torri eu cwys eu hunain mewn bywyd. Maer portreadau yn gymysgedd or hanesyddol ar mwy diweddar.
Ymunwch âr ffrindiau a dewch i fwynhaur sioe wych. Cyfrol fach fywiog, yn llawn symudiadau slic iw mwynhau! Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o Welcome to the Circus.
Hwyl a sbri wrth gyfrif o 1 i 10 gyda Llygoden Fach. Cyflwynwch rifau ich un bach gydar lluniau hardd a hyfryd yma gan Leonie Servini, syn berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau iw gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Beth mae Llygoden Fach yn ei wneud? Sawl seren sydd yn yr awyr? Mewn dim o dro, byddwch chin cyfrif gydach gilydd o 1 i 10.
Dewch i ddysgur wyddor gyda Llygoden Fach. Ewch ar antur trwyr wyddor gydar lluniau hardd a hyfryd yma, syn berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau iw gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Pwy syn dathlu yn y parti? I ble maer fan yn mynd? Mewn dim o dro byddwch chin adnabod pob llythyren, o 'a' i 'y'.
Corff gwraig yn y Ddyfrdwy a thrasiedi yn Llŷn, nofel goll, dyddiadur cudd, dryswch yn achaur teulu. Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom ond unllen fwy nag ym mywyd yr awdures fyd-enwog Veronique ac yn hanes teulu Sisial y Traeth yn Abersoch. Mae sawl dirgelwch i'w ddatrys, ym marn y gohebydd Huw Peris, ond a fydd ymyrryd yn costion ddrud iddo?