Argymhellion Nadolig

Dyn Dweud Drefn Yn Chwarae Pel Droed

Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?

A:Annisgwyl

Disgwyliwch yr annisgwyl yn y gyfrol ddifyr hon o straeon byrion sydd i gyd â thro yn y gynffon!

Rhuddin
Rhuddin


£9.95

Sorry, no synopsis is currently available.

Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog A'r Ceffyl

Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae’r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda’i wersi bywyd tyner sy’n ein hatgoffa o gyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith.

The Magician

From one of our greatest living writers comes a sweeping novel of unrequited love and exile, war and family.


The Magician tells the story of Thomas Mann, whose life was filled with great acclaim and contradiction. He would find himself on the wrong side of history in the First World War, cheerleading the German army, but have a clear vision of the future in the second, anticipating the horrors of Nazism. He would have six children and keep his homosexuality hidden; he was a man forever connected to his family and yet bore witness to the ravages of suicide. He would write some of the greatest works of European literature, and win the Nobel Prize, but would never return to the country that inspired his creativity.


Through one life, Colm Toibin tells the breathtaking story of the twentieth century.


___________________________________


***Praise for Colm Toibin***


'A celebration of what novels can do' Observer


'Devastatingly human . . . savage, sordid and hauntingly believable' Guardian


'Tremendous, richly beautiful, wonderful . . . it does everything we ought to ask of a great novel' Tessa Hadley


'Subtle and enthralling' Sunday Times



Heb Eu Tebyg

Dyma Harri Parri ar ei orau – yn cyflwyno deg portread o bobol unigryw – pobol sydd wedi torri eu cwys eu hunain mewn bywyd. Mae’r portreadau yn gymysgedd o’r hanesyddol a’r mwy diweddar.

Hela
Hela


£8.99

Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela. Ceir hanes criw o ffrindiau - Callum, Babo, Jac Do a Saim Bach - sy’n gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i’r gymuned, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon.

Niwl Ddoe

Corff gwraig yn y Ddyfrdwy a thrasiedi yn Llŷn, nofel goll, dyddiadur cudd, dryswch yn achau’r teulu. Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom ond unlle’n fwy nag ym mywyd yr awdures fyd-enwog Veronique ac yn hanes teulu Sisial y Traeth yn Abersoch. Mae sawl dirgelwch i'w ddatrys, ym marn y gohebydd Huw Peris, ond a fydd ymyrryd yn costio’n ddrud iddo?

ABC Gyda Llygoden Fach

Dewch i ddysgu’r wyddor gyda Llygoden Fach. Ewch ar antur trwy’r wyddor gyda’r lluniau hardd a hyfryd yma, sy’n berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau i’w gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Pwy sy’n dathlu yn y parti? I ble mae’r fan yn mynd? Mewn dim o dro byddwch chi’n adnabod pob llythyren, o 'a' i 'y'.

Miri'r Mor-Ladron

Ymunwch â’r ffrindiau a dewch ar helfa drysor. Cyfrol fach fywiog, yn llawn symudiadau slic i’w mwynhau! Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o A Day with the Pirates.

Croeso I'r Syrcas

Ymunwch â’r ffrindiau a dewch i fwynhau’r sioe wych. Cyfrol fach fywiog, yn llawn symudiadau slic i’w mwynhau! Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o Welcome to the Circus.

123 Gyda Llygoden Fach

Hwyl a sbri wrth gyfrif o 1 i 10 gyda Llygoden Fach. Cyflwynwch rifau i’ch un bach gyda’r lluniau hardd a hyfryd yma gan Leonie Servini, sy’n berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau i’w gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Beth mae Llygoden Fach yn ei wneud? Sawl seren sydd yn yr awyr? Mewn dim o dro, byddwch chi’n cyfrif gyda’ch gilydd o 1 i 10.


Tudalennau Canlyniadau: [<< Blaenorol]   1  2  3  4  5 ...  [Nesaf >>]  Dangos 25 i 36 (o 98 teitl)