Argymhellion
Dyddiadur, mewn celf a cherddi Cymraeg a Saesneg, o'r cyfnod diweddar yn ein hanes. Dyma gipolwg Siôn Aled ac Iwan Bala ar gwrs eu byd yng nghysgod dau bla: COVID-19 a Brexit.
Dyma ni, trip yr Adran Iau. Mae bag ar bob cefn, cap neu ddau, mynydd on blaenau ar gair mawr ydi MWYNHAU! Ie, taith gerdded Dosbarth Dau, ond ydyn nhwn mwynhau? Cyfrol o ddarluniau gan Huw Aaron yn seiliedig ar gerdd ddigri gan Myrddin ap Dafydd.
Nofel atgofus sy'n cynnig portread cynnes o'r berthynas unigryw rhwng mam a mab.
Nofel hynod o bwerus sy'n gwneud i'r darllenydd edrych gyda golwg newydd ar ei gymuned/chymuned. Mae'r newyddiadurwr John Gough yn siŵr fod y person anghywir wedi cael ei arestio yn dilyn llofruddiaeth ar Ynys Môn yn 1979. Gyda'i fywyd personol yn mynd o ddrwg i waeth, a fydd ganddo'r penderfyniad, a'r dewrder, i fynd ar ôl y gwir?
Tyrd i gwrdd ag anifeiliaid y fferm yn y llyfr hwyliog hwn ai ddrych hud. Cei chwarae gyda gwartheg, moch, ceffylau a geifr, ond pwy ywr mwyaf swnllyd ohonynt i gyd?
Tyrd i gwrdd ag anifeiliaid bychain yn y llyfr hwyliog hwn ai ddrych hud. Cei chwarae gyda chwningod, wyn, cŵn bach a chywion, ond pwy ywr anwylaf ohonynt i gyd?
Nofel afaelgar llawn cyfrinachau a dirgelwch. Gŵyr Mererid nad yw hin boblogaidd. Hoffai fod, ond mae hi bob amser yn dweud y peth anghywir, neun dweud gormod. Un oi ffaeleddau yw ei hanallu i gau ei cheg, ac mae hynnyn mynd ar nerfau pobol. Ar ddiwedd noson feddw, maen darganfod ei hun yng nghanol dirgelwch ac mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth.