Argymhellion

All the wide border

Myfyrdod cynnes, amserol a doniol am hunaniaeth a pherthyn, gan ddilyn llwybr llawn golygfeydd hardd ar hyd ffin Lloegr a Chymru: llinell ffawt ddyfnaf Prydain. Mae'r llinell ar y map yn dynodi: ar un ochr - Cymru - bychan, garw ac ystyfnig; ar yr ochr arall - Lloegr - crochan y diwylliant ehangaf a welodd y byd erioed.

Drift

Mae nofel gyntaf yr awdures Caryl Lewis yn yr iaith Saesneg yn llawn awyrgylch cyfrin. Dyma stori gariad am ferch ifanc o Gymraes a mapiwr o Syria. Mae'r testun yn gyfoethog o ran hud, dirgelwch a swyn y môr.

Brittle with relics

Cyfrol flaengar sy'n adrodd hanes pobl Cymru mewn cyfnod o newid mawr yw Brittle with Relics. Cofnodir digwyddiadau trawsnewidiol megis trychinebau Aberfan a Thryweryn; twf mudiad yr iaith Gymraeg; Streic y Glöwyr a'r cyfnod a'i dilynodd; a'r bleidlais agos dros ddatganoli rhannol.

Turning Tide

Emyn mawl i lwybr morol o bwysigrwydd hanesyddol drwy'r byd yw The Turning Tide. Mae Jon Gower, wrth gyfuno hanes diwylliannol a chymdeithasol, llenyddiaeth natur a thaith ynghyd â gwleidyddiaeth, yn cyflwyno hanes y môr rhwng Cymru ac Iwerddon, môr a gariodd Lychlynwyr a seintiau, lluoedd goresgynnol a herwyr arfog, llenorion, cerddorion a physgotwyr.

Creative act

THE SUNDAY TIMES BESTSELLERMany famed music producers are known for a particular sound that has its day and then ages out. Rick Rubin is known for something else: creating a space where artists of all different genres and traditions can home in on who they really are and what they really offer. He has made a practice of helping people transcend their self-imposed expectations in order to reconnect with a state of innocence from which the surprising becomes inevitable. Over the years, as he has thought deeply about where creativity comes from and where it doesn't, he has learned that being an artist isn't about your specific output; it's about your relationship to the world. Creativity has a place in everyone's life, and everyone can make that place larger. In fact, there are few more important responsibilities. The Creative Act is a beautiful and generous course of study that illuminates the path of the artist as a road we all can follow. It distils the wisdom gleaned from a lifetime's work into a luminous reading experience that puts the power to create moments - and lifetimes - of exhilaration and transcendence within closer reach for all of us.

Cwlwm
Cwlwm


£8.99

Stryffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain mae Lydia, yn difaru'r nosweithiau meddw, yn pendroni dros decsts, yn trio'i gorau i beidio cyrraedd yn hwyr i'w gwaith. Mae ganddi berthynas gymhleth â Chymru. Ymhell o adra, mae hi'n cwestiynu ei hunaniaeth a sut mae hi'n gweld ei hun fel Cymraes yn y byd.

Sgen I'm Syniad

Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.

Half-Life of Snails

Dwy chwaer, dwy atomfa niwclear, un plentyn wedi'i ddal yn y canol ... Pan fo Helen yn gadael ei mab ifanc Jack yng ngofal ei chwaer am ychydig ddyddiau er mwyn iddi hithau ymweld â Pharth Cau Allan Chernobyl, gŵyr y ddwy y bydd hwn yn gyfnod pryderus. Mae Helen yn wrthwynebus i gynlluniau i godi ail bwerdy ar arfodir Ynys Môn ar dir y fferm deuluol.

Dros Y Mor A'r Mynyddoedd

Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

Poenisawrws

Dyma'r llyfr perffaith i helpu pob Poenisawrws bychan i ddod dros eu hofnau ac i fod yn hapus yn y foment.

Frank Lloyd Wright

Mae sawl awdur wedi adrodd hanes cyflawniadau rhyfeddol a bywyd cythryblus Frank Lloyd Wright, ond dyma'r astudiaeth gyntaf i ddarparu eglurhad cynhwysfawr o'i egwyddorion a'r hyn a'i symbylai, gan eu olrhain i'w wreiddiau yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Arglwydd Y Fforest

Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae'n dweud wrth ei fam am y synau o'i gwmpas mae hi'n ei atgoffa 'Pan na fyddi di'n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!' Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod? Addasiad Cymraeg Mererid Hopwood o Lord of the Forest.


Tudalennau Canlyniadau: [<< Blaenorol]   1  2  3  [Nesaf >>]  Dangos 13 i 24 (o 32 teitl)