Argymhellion
Mae eich hoff gymeriadau Disney a Pixar yma i ddangos holl liwiaur enfys a mwy!
Hwyl a sbri wrth gyfrif o 1 i 10 gyda Llygoden Fach. Cyflwynwch rifau ich un bach gydar lluniau hardd a hyfryd yma gan Leonie Servini, syn berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau iw gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Beth mae Llygoden Fach yn ei wneud? Sawl seren sydd yn yr awyr? Mewn dim o dro, byddwch chin cyfrif gydach gilydd o 1 i 10.
Ymunwch âr ffrindiau a dewch i fwynhaur sioe wych. Cyfrol fach fywiog, yn llawn symudiadau slic iw mwynhau! Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o Welcome to the Circus.
Dewch i ddysgur wyddor gyda Llygoden Fach. Ewch ar antur trwyr wyddor gydar lluniau hardd a hyfryd yma, syn berffaith ar gyfer dysgu gartref. Mae yna lawer o bethau iw gweld a siarad amdanyn nhw ar bob tudalen. Pwy syn dathlu yn y parti? I ble maer fan yn mynd? Mewn dim o dro byddwch chin adnabod pob llythyren, o 'a' i 'y'.
Ymunwch âr ffrindiau a dewch ar helfa drysor. Cyfrol fach fywiog, yn llawn symudiadau slic iw mwynhau! Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o A Day with the Pirates.
A am Anghenfil. B am Bwci-bo. Pwy arall fydd yn dod draw am de parti sgwn i? Cerdd hollol hurt a doniol gan yr artist Huw Aaron yn cymeriadu'n lliwgar holl lythrennau'r wyddor.
Tyrd i gwrdd ag anifeiliaid y fferm yn y llyfr hwyliog hwn ai ddrych hud. Cei chwarae gyda gwartheg, moch, ceffylau a geifr, ond pwy ywr mwyaf swnllyd ohonynt i gyd?
Tyrd i gwrdd ag anifeiliaid bychain yn y llyfr hwyliog hwn ai ddrych hud. Cei chwarae gyda chwningod, wyn, cŵn bach a chywion, ond pwy ywr anwylaf ohonynt i gyd?