![](https://palasprint.com/wp-content/uploads/2021/02/Lliwio-Dewi-Sant.jpg)
Llyfr Lliwio
Dewi Sant
Llyfr lliwio gyda thestun cryno yn adrodd hanes Dewi Sant, mewn cyfres sy'n cyflwyno hanes rhai o enwogion Cymru.
Gwneud y Pethau Bychain
Mae Alys yn dysgu bod Dewi Sant wedi dweud wrth ei ddilynwyr am wneud y 'pethau bychain', ac mae'n pendroni beth yw ystyr hynny. Yn ystod y diwrnod mae hi'n sylweddoli ei bod yn gwneud 'pethau bychain' i wneud bywydau pobl eraill yn well ac wrth roi'r pethau hyn gyda'i gilydd maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr.
![](https://palasprint.com/wp-content/uploads/2021/02/ar-drywydd-Dewi-sant.jpg)
Ar Drywydd Dewi Sant
Gerald Morgan
Dyma'r unig gyfrol gynhwysfawr am hanes nawddsant Cymru. Mae Gerald Morgan yn crynhoi bywyd, traddodiadau a chwedloniaeth Dewi mewn un gyfrol hylaw. Mae pobl drwy'r canrifoedd wedi gofyn pwy oedd y Dewi go iawn, a chawn yr atebion am y ffigur diddorol a chymleth yn y llyfr pwysig hwn.
Gwnewch y Pethau Bychain
Canllaw gan Gymry i bawb yng Nghymru a fydd yn cynnig amryw ffyrdd o gefnogi a chynyddu defnydd y Gymraeg. O gefnogi busnesau Cymraeg i drydar neu ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg, mae'r gyfrol yma yn llawn cynghorion pwrpasol i greu ymdeimlad cenedlaethol cryfach. Rhagair gan Nigel Owens.
Heddiw Ddoe a Gwyl Ddewi
Cyfrol lliwgar, ddeniadol yn llawn o ffeithiau difyr am draddodiadau dydd gŵyl Dewi. Sut ydych chi'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi? Cawl? Cennin? Corau Meibion? Mae pob math o draddodiadau'n ymwneud â'r dydd yng Nghymru a ledled y byd, ac amryw o straeon difyr o'u cwmpas, ond tybed a wyddoch chi am y traddodiadau newydd sy'n cael eu creu heddiw?