
Rhestr Fer Oedran Cynradd

Gwag y Nos
Sioned Wyn Roberts
‘Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’ Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae’n uffern.

Gwil Garw
Huw Aaron
Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd…GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i'w dymer a'i chwilfrydedd roi'r byd mewn perygl, mae'n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau.

Sara Mai a lleidr y Neidr
Casia Wiliam
Mae Sara Mai yn ei hôl! Mae pob math o anifeiliaid diddorol yn sw Sara Mai, gan gynnwys neidr brin iawn. Ond pwy fyddai eisiau dwyn neidr? Stori ar gyfer darllenwyr 7-11 oed gan gyn-Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n cynnwys 6 llun arbennig gan Gwen Millward.
Rhestr Fer Oedran Uwchradd

Fi ac Aaron Ramsey
Manon Steffan Ros
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae eu perthynas fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

Y Pump
Set focs o bump nofel fer sy'n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.

Rhestr Fer Iaith Saesneg

10 Stories from Welsh History
Nod y llyfr hynod weledol a ffeithiol hwn yw annog plant i ddarganfod a dysgu mwy am 10 stori o hanes Cymru. Cynnwys:-(1) Gwenllian Ferch Gruffudd; (2) Owain Glyndŵr; (3) Barti Ddu; (4) DicPenderyn / Merthyr; (5) Alfred Russel Wallace; (6) Streic y Penrhyn; (7) Terfysgoedd Hil (20fed ganrif); (8) Eileen Beasley; (9) Aberfan; (10) Datganoli.

Swan Song
Gill Lewis
Excluded from school, Dylan is forced to move to a tiny village in Wales where his grandad lives. With no Xbox or internet, life is looking pretty bleak, but when Grandad takes Dylan out on his boat to see the whooper swans, things begin to change.

Welsh fairy Tales,
Myths & Legends
Claire Fayers
Casgliad cyfoethog o chwedlau a straeon tylwyth teg o Gymru, wedi'u hailadrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. Ceir yma straeon am ddreigiau Cymreig chwedlonol yn dinistrio castell dro ar ôl tro; tywysoges wedi'i chreu o flodau; plentyn cyfnewid; Gelert, y ci hela ffyddlon a'r bachgen chwilfrydig a dyfodd i fod yn fardd pennaf Cymru.

