
Barddoniaeth
Rhestr Fer
Ffeithiol Greadigol
Rhestr Fer

Sgen i'm Syniad
Gwenllian Ellis
Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi'n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, y gwersi ti'n ddysgu ar y ffordd a'r bobl sy'n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario. Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti'm syniad.

Cylchu Cymru
Gareth Evans-Jones
Dyma gyfrol o ddarnau o lenyddiaeth sy'n cynnig mewnwelediad cryno i leoliadau - eu straeon, hanes, chwedloniaeth, a'u cyfaredd. Teflir goleuni ar fannau amrywiol o Fôn i Fynwy, ar hyd yr arfordir a Chlawdd Offa. Mae Gareth Evans-Jones yn awdur, yn ddramodydd ac yn ddarlithydd. Ceir ffotograffau i gyd-fynd â phob lle a dyluniwyd gan Olwen Fowler.

Cerdded y Caeau
Rhian Parry
Yn sgil y diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd, bydd Rhian Parry yn cerdded y caeau i ddatgelu'r hanes a'r cyfrinachau y tu ôl i enwau lleoedd, enwau ffermydd ac enwau caeau Ardudwy. Cyfrol yn llawn lluniau a mapiau sy'n rhan o ymchwil yr awdur ar enwau ffermydd a chaeau Ardudwy a'r hyn maent yn ei ddadlennu am dirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru gyfan.
Ffuglen
Rhestr Fer

Pumed Gainc y Mabinogi
Peredur Glyn
Anghofiwch beth rydych chi'n ei gredu sy'n wir. Rhiannon, Gwydion, Mathonwy - oeddech chi'n meddwl mai dim ond chwedlau ydyn nhw? Mae'r 'Llyfr Glas' wedi cael ei ailddarganfod… mae creaduriaid amhosib yn ymgasglu yn y cysgodion… ac mae grymoedd sydd tu hwnt i'ch dealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau er mwyn rhwygo'ch realiti yn ddarnau.

Rhyngom
Sioned Erin Hughes
Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 "Dyma gasgliad crefftus, craff, sa sawl stori sy'n dyfnhau efo pob darlleniad". Dylan Iorwerth "Llwydda i dreiddio i ddyfnderoedd y cymeriadau a pheri i ni eu gweld fel pobl go iawn". Meg Elis "Lluniodd gasgliad o ymsonau sy'n cyfleu gwahanol fathau ar adnabod rhwng dau unigolyn, a chefais flas mawr ar bob un ohonynt". Eurig Salisbury
Plant a Phobl Ifanc
Rhestr Fer

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor
Luned Aaron Huw Aaron
Llyfr stori-a-llun gwreiddiol, sy'n archwilio dyheadau a dychymyg plentyn. Ar bob tudalen mae'r prif gymeriad yn archwilio'r profiad o fod yn wahanol fathau o greaduriaid megis ddeinosor, pengwin, octopus neu grocodeil… ond yn fuan mae'n sylweddoli ei fod yn unigryw ac nad oes unrhyw un arall yn debyg iddo. Mae hyn yn anhygoel o arbennig!

Byd Bach Dy Hun
Sioned Medi Evans
Llyfr llun a stori syml, mewn mydr ac odl, gan yr awdur a'r artist Sioned Medi Evans. Mae Byd Bach Dy Hun yn holi'r darllenwyr am ryfeddodau eu byd. Beth sydd i'w weld, pa lefydd arbennig sy'n bodoli, a pha fath o bobol a chreaduriaid sy'n byw yno?

Powell
Manon Steffan Ros
Nofel yw Powell am berthynas taid a'i ŵyr sy'n cyffwrdd ar berthynas Cymru gyda chaethwasiaeth, ac sy'n trafod sut i gydnabod erchyllterau ein hanes mewn ffordd sensitif. Ar ôl archwilio achau'r teulu, mae Taid ac Elis yn mynd i Virginia yn yr Unol Daleithiau i aildroedio llwybrau Edward Powell.
Rhestr Fer Saesneg
