Skip to content

Archif Digwyddiadau

Wedi Bod

21 - 04 - 23
6:30pm | Palas Print, Caernarfon
Màrtainn mac an tSaoira (Martin Macintyre)
Bardd o’r Alban / Bàrd Albannach / Scottish poet
yng nghwmni / an cuideachd / together with
Ifor ap Glyn Caernarfon

Noson dairieithog / oidhche trì-chànanach / tri-lingual event

Mae Màrtainn yn fardd a nofelydd sydd wedi’i gyfieithu i sawl iaith. Bydd yn rhannu detholiad o’i waith ar y noson, gan gynnwys cerddi a luniodd tra’n teithio drwy’r Alban, Cymru a Chatalwnia yn 2021. Bydd rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law fel A’ Ruith Eadar Dà Dhràgon (Rhedeg rhwng dwy ddraig)

Cyfrol pedairieithog fydd hon a cherddi gwreiddiol Màrtainn yn yr Aeleg wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, Catalaneg a’r Saesneg. Ifor ap Glyn sy’n gyfrifol am y cyfieithiadau i’r Gymraeg a bydd cyfle i glywed rhai o’r rheini ar y noson, yn ogystal â cherddi eraill ganddo yntau sydd wedi’u hysbrydoli gan y cysylltiad rhwng y ddwy wlad a’r ddwy iaith.

23 - 03 - 23
6:30
Palas Print, Caernarfon
Anwyl Fam
Ifor ap Glyn

Annwyl Fam
Ifor ap Glyn

Hanes taith gwr ifanc o Geredigion i Goed Mamtez yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf drwy gyfrwng ei lythyrau adref i’w fam, a thaith Ifor ap Glyn i'r un lleoliadau.


24 - 03 - 23
6:30
Palas Print, Caernarfon
A Nation of Shopkeepers
Dan Evans

Dan Evans awdur y gyfrol yn trafod efo Mabli Siriol (ymgyrchydd a chyn Gadeirydd Cymdeithas uyr Iaith) gan roi pwyslais am y profiad Cymraeg a Chymreig

18 - 03 - 23
Palas Print, Caernarfon
3:00
The Turning Tide
Jon Gower

18 - 03 - 23
Palas Print, Caernarfon
2:00
Diwedd (Sgwrs efo Ant Evans)

17 - 03 - 23
6:30pm
Boat House Hotel, Caergybi
The Turning Tide
Jon Gower

17 - 03 - 23
6:30
Palas Print
Birdsplaining | Jasmine Donahaye |
Windstill | Eluned Gramich |
efo Gwen Davies

Birdsplaining
Jasmine Donahaye

Windstill
Eluned Gramich

10 - 03 - 23 (Gwyl Ddewi Arall)
7:00pm
Am ddim
Galeri Caernarfon
Ffilm Fidel Up Close (er budd Cymru Cuba)

06 - 03 - 23
Penygroes
Arlwy'r Ser
Angharad Tomos

02 - 03 - 23
7:00pm
Palas Print, Caernarfon
Cymru Fydd
William Owen Roberts

Recordiad o'r digwyddiad

Angharad Price yn holi William Owen Roberts am ei nofel Cymru Fydd

03 i 05 - 03 - 23
Gwyl Ddewi Arall

Mae Gwyl Ddewi Arall yn ôl eto eleni, gyda penwythnos llawn dop o ddigwyddiadau amrywiol - cerddoriaeth, celf, sgyrsiau a theithiau. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur a chadwch olwg allan am fwy o wybodaeth!

04 - 03 - 23 (Gwyl Ddewi Arall)
2:00
Palas Print, Caernarfon
£5.00
Llyfr y Flwyddyn
Mari Emlyn

04 - 03 - 23 (Gwyl Ddewi Arall)
3:30
Palas Print, Caernarfon
£5.00
Sgwrs rhwn
Gwenllian Ellis awdur Sgen i'm Syniad
a
Ffion Enlli awdur Cwlwm

04 - 03 - 23 (Gwyl Ddewi Arall)
Lle Arall, Llety Arall
St David Datblygu Day

10 - 02 - 23
6 : 30pm
Palas Print, Stryd y Plas, Caernarfon
Bwrw Dail
Elen Wyn a Nicky John

11 - 02 - 23
12 : 15pm
Palas Print, Stryd y Plas, Caernarfon
Y Ferch o Aur
Gareth Evans

Wyt ti’n hoffi darllen? Wyt ti’n hoffi storïau hanesyddol? Mae Gareth Evans wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc, ac ar ddydd Sadwrn, Chwefror 11eg mi fydd yn dod i Palas Print i siarad am ei lyfr newydd Y Ferch o Aur. Cyfle i gyfarfod awdur, i’w glywed yn siarad am ri lyfr ac yn darllen ohono, a chyfle i ofyn cwestiynnau am ei lyfrau, neu am sgwennu.
Er bod’r nofel wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd, mae hefyd yn addas i unrhyw oedolyn sy’n mwynhau nofel dda, yn arbennig rhai hanesyddol. Dewch yn llu.
Croeso cynnes i bawb

14 - 01 - 23
02 : 00pm
Lle Arall, Stryd y Plas, Caernarfon
Rhai i Bopeth Newid
Sgwrs rhwng Dafydd Morgan Lewis, (Y Golygydd) ac Angharad Tomos

Dathlu #palasprint20

Mae Palas Print yn 20 oed, ac roeddem eisiau nodi'r achlysur drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau gydag awduron a llyfrau sy'n golygu  rhywbeth i ni, neu sy'n adelwyrchu'r hyn 'da ni wedi geisio ei neud ar hyd y blynyddoedd. Bydd 'na fwy yn y misoedd i ddod, ond dyma gychwyn gyda cyfres o ddigwyddiadau rhwng 8ed a 17eg Medi. Gobeithio cael eich cwmni ar gyfer y digwyddiadau isod, a diolch o galon i chi am eich cefnogdaeth ar hyd y blynyddoedd.
Eirian a Sel

Nos Iau 08 - 09 - 22

6:30yh
Palas Print
Mair ac Angharad Price
yn trafod cefndir O! Tyn y Gorchudd

Enillodd O! Tyn y Gorchudd Medal Ryddiaith Eisteddofd Sir Benfro 2002, cwta fis ar ôl i ni agor y siop. Wnes i ddim cynnal digwyddiad ar y pryd - doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynd ati, ac ro'n i'n rhy swil i ofyn i Angharad! Ugain mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfle i ddathlu'r gyfrol wych hon, sy'n dal i hawlio'i lle yn fy 10 uchaf personnol, yng nghwmni Angharad a'i mam, a fagwyd yn Maesglasau, Sir Feirionnydd, lleoliad canolog y gyfrol.

Digwyddiad am ddim, ond gwerthfawrogir cyfraniad i Gronfa Apêl Caernarfon, Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023
Prynu

11:00yb
Gerddi'r Emporiwm Palas Print
Ifor ap Glyn a Hanan Issa

Dau fardd Cenedlaethol yn Palas Print… a ddim am y tro cyntaf (ond stori arall 'di honno)! Ar hyd y blynyddoedd, da ni wedi cynnal nifer fawr o nosweithiau gyda beirdd lleol a rhyngwladol yn y siop ac yn yr ardd, yn aml mewn partneriaeth gyda Ty Newydd neu Adran Saesneg Prifysgol Bangor, neu PEN Cymru. Mae Ifor yn hen gyfarwydd â pherfformio yn y siop ac yng ngardd Palas Print, a braf yw ei groesawu yn ôl i'r ardd. Hwn fydd ei berfformiad olaf swyddogol fel Bardd Cenedlaethol Cymru cyn iddo drosgwylddo'r awenau i ddwylo diogel Hanan Issa yn Nhy Newydd yn y pnawn. Da ni'n falch iawn i groesawu'r ddau i'r ardd i gyflwyno eu cerddi i chi

12:00yp
Gerddi'r Emporiwm Palas Print
Capten
Meinir Pierce Jones

Mae 'na gyffro yn y siop bob Steddfod wrth i ni ddisgwyl i glywed a oes rhywun wedi ennill prif wobrau llenyddol yr Wyl, ac a fydd 'na deilyngdod (a chyfrol newydd i'w ddarllen a'i werthu) yng nghystadleuaeth 'y Daniel' a'r Fedal Ryddiaith. Dw i'n bersonol wrth fy modd gyda'r dirgelwch o gwmpas y cyhoeddi, ac yn gwrando'n astud ar y feirniadaeth yn croesi mysedd y bydd 'na enillydd, ac yn eiddgar i agor bocsus o lyfrau pan fydd yr Archdderwydd (gobeithio) yn cyhoeddi enw'r enillydd. Chafon ni ddim ein siomi eleni eto, a braf iawn yw croesawu Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 i'r ardd i sgwrsio am ei nofel hanesyddol sydd wedi cael canmoliaeth uchel iawn gan dau o'r beirniaid, a nifer fawr o gwsmeriaid... dewch i glywed mwy am y nofel ac i holi'r awdur.
Prynu

2:00yp
Gerddi'r Emporiwm Palas Print
Charlotte Williams
Sugar and Slate

Un o'r digwyddiadau cyntaf i mi drefnu yn Palas Print oedd noson yng nghwmni Charlotte Williams, awdur Sugar and Slate, llyfr wnaeth argraff ddofn arnaf pan wnes i ei ddarllen nol yn 2002. Roedd y trefniadau (o'm ochr i) ychydig yn flêr! Doedd 'na ddim PA, dim cadeiriau, dim llwyfan... a doedd gen i ddim syniad a fyddai unrhywun yn troi allan... roedd y siop fach yn orlawn, (ro'n i wedi gwahodd pawb o'n i'n nabod), a'r awduron wedi'i sgwasho i gornel yng nghefn y siop i berfformio. Mi wnaethom redeg allan o win a diod ysgafn, ond cafwyd noson lwyddiannus iawn, a'r awduron i gyd yn hapus (dw i'n meddwl) a'r gynulleidfa wedi gwerthfawroi'r cyfle i glywed awduron yn siarad am eu llyfrau.

20 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Sugar and Slate yn cael ai ail-gyhoeddi, ac mae'n teimlo'n amserol iawn i groesawu Charlotte yn ôl i drafod ei hunangofiant a enillodd Llyfr y Flwyddyn yn 2003.
Prynu

3:30yp
Gerddi'r Emporiwm Palas Print
Adar mewn ffuglen a ffaith
Jon ag Onwy Gower

Dwi'n cofio Onwy yn dod i Gwyl Arall gyda'i thad, ac yn syth bin eisiau helpu mas... mi wnaethom ei chadw'n brysur drwy'r penwythnos! Mi wnaeth hi son wrtha i ar y pryd, pan oedd hi'n 8 oed am syniad oedd ganddi am lyfr. Braf iawn oedd cael gwybod ganddi flwyddyn yn ddiweddarach bod y llyfr ar ei ffordd a chael cais ganddi i gynnal digwyddiad i ddathlu cyhoeddi'r gyfrol yn y siop, ac am ddigwyddiad hyfryd sy'n sefyll yn y cof am sawl rheswm. Mae Jon hefyd wedi bod mor barod ar hyd y blynyddoedd i neidio ar y tren i ddod i Palas Print ac i Gwyl Arall, ac i Pontio i gymryd rhan mewn cynifer o ddigwyddiadau, ac mae'n braf croesawu'r ddau yn ôl i drafod Adar mewn Ffuglen a Ffaith

Cyfle i glywed yr awdur Jon Gower yn trafod sut mae adar yn hedfan drwy ei  waith tra bydd  Onwy Gower yn cyflwyno'r ffeithiau amdanynt allan o Llyfr Adar Mawr y Plant.
Prynu

Dydd Iau 15 - 09 - 22

6:30yp
Palas Print
The Very Rough Guide to Wales
Mike Parker

Ugain mlynedd yn ôl, tra mod i'n trio dysgu sut i redeg siop lyfrau, roedd Mike Parker yn gorffen ei cyfnod o ddegawd o sgwennu a golygu The Rough Guide to Wales. Roedd y gwahaniaeth rhwng y fersiwn hwnnw o'r wlad a'r wlad go iawn yn mynd yn rhy fawr iddo, ac ers hynny mae wedi trafod sut mae o'n gweld y wlad ar y teledu ac ar y radio, acf wedi sgwennu amdano mewn llyfrau fel On the Red Hill, Neighbours from Hell?, The Greasy Poll a Map Addict. Mae Mike wedi bod yn gefnogol iawn i ni ar hyd y blynyddoedd, ac wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad yn y siop ac yn Gwyl Arall, a braf yw ei wahodd yn ôl i roi sgwrs gyda lluniau i ni sy'n wibdaith trwy Gymru sy'n newid - y Gymru go iawn! Neu mor real ag sy'n bosib i unrhywun ei gael…

Dydd Sadwrn 17 - 09 - 22

10:30yb
Palas Print
The Half-Life of Snails
Philippa Holloway

Da ni'n aml yn cael cais, gan gyhoeddwr, gan awdur, gan gerddor, gan gwsmer neu gan ffrind, i drefnu digwyddiad yn y siop, ac ar hyd y blynyddoedd, lle bo'n addas a phosib, da ni wedi trio'n gorau i groesawu a galluogi eraill i ddefnyddio'r gofod i gynnal digwyddiad. Felly pan wnaeth ffrind i Sel a'r siop ofyn fysa ni'n fodlon trefnu digwyddiad gyda Philippa Holloway ar ôl iddo'i chlywed hi'n siarad, wel dyma benderfynu ei gwahodd i'r siop i son am y nofel, The Half-Life of Snails. Dewch i glywed yr awdur yn siarad am ei nofel sy wedi ei osod yn rhannol yn Ynys Môn ac am yr ymchwil a wnaeth yn Wcrain ac ym Mhrydain wrth fynd ati i sgwennu am ddwy ochr y ddadl niwclear.Prynu

12:00yp
Palas Print
Rhyngom
Sioned Erin Hughes

Mi gychwynais y gyfres hon o ddigwyddiadau gydag enillydd Medal Ryddiaith 2002, ac felly mae'n teimlo'n briodol iawn ein bod yn gwahodd enillydd Medal Ryddiaith 2022 i gymryd rhan yn y gyfres hon o ddigwyddiadau hefyd. Mae sawl cyfrol sy wedi ennill y Fedal yn sefyll yn y cof, ac ar fy silff ffefrynnau am yn hir iawn, a gwn bydd Rhyngom yn fy 10 ucha am flynyddoedd i ddod. Dewch i longyfarch Erin ac i'w chlywed yn sgwrsio am ei chyfrol ysgubol.
Prynu

Wedi Bod

Nos Iau 28 - 07 -22
Gerddi'r Emporiwm
Palas Print
6:30
£7.00 ar y drws
Gig yn yr Ardd
Gwen Máiri

Nos Iau 14 - 07 -22
Gerddi'r Emporiwm
Palas Print
6:30
£7.00 ar y drws
Gig yn yr Ardd
Dafydd Owain

18 - 06 - 22
Sadwrn
10:30
Palas Print, Am ddim

Barddoniaeth mewn Trosiadau Trawsatlantig
Da ni'n falch iawn i groesawu’n ôl
Víctor Rodríguez Núñez
Un o feirdd cyfoes amlycaf Cuba.
efo Grug Muse & Iestyn Tyne
yn cyfieithu Katherine M. Hedeen
Toronto Experimental Translation Collective
https://tetcollective.com/

Mae gan y bardd Ciwbaidd Víctor Rodríguez Núñez dros saith deg o gasgliadau o'i farddoniaeth wedi'u cyhoeddi ledled y byd. Mae wedi derbyn gwobrau sylweddol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae ei gerddi dethol wedi eu cyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd. Ei lyfr diweddaraf mewn cyfieithiad Saesneg yw from a red barn (co•im•press, 2020) Mae'n rhannu ei amser rhwng Gambier, Ohio, lle mae'n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Kenyon, a Havana, Ciwba. Mwy o wybodaeth:
www.victorrodrigueznunez.com

25 - 05 - 22
6:30
Palas Print, Am ddim

Dathlu Cyhoeddi
Pridd
Llyr Titus
yng nghwmni
Angharad Price

Ymunwch â ni - yn yr ardd os yw hi'n braf - am noson anffurfiol i ddathlu cyhoeddi PRIDD, gan Llyr Titus. Angharad Price fydd yn holi'r awdur am ei nofel newydd drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith. Croeso cynnes i bawb.... ac os na fedrwch ddod a'ch bod eisiau copi wedi'i lofnodi gan yr awdur, achebwch isod, neu cysylltwch â'r siop.

04 - 12 - 21
11:00
Palas Print

Sesiwn lofnodi!
100 Cymru
gan
Dewi Prysor

Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi:
eirian@palasprint.com

Prynu

04 - 12 - 21
2:00
Palas Print

Sesiwn lofnodi!
Yn Fyw yn y Cof
gan
John Roberts
Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi:
eirian@palasprint.com

Prynu

27 - 11 - 21
5:00 - 6:30
Yr Hen Lys
Dewch i ddathlu cyhoeddi

Cawod Lwch
Rhys Iorwerth
yng nghwmni
Rhys Iorwerth
Myrddin ap Dafydd
Geraint Thomas

27 - 11 - 21
11:00

Sesiwn lofnodi!
Mori
gan
Ffion Dafis
Palas Print

Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi:
eirian@palasprint.com

19 - 11 - 21
6:30
Palas Print
Dewch i ddathlu cyhoeddi

The Long Field
Pamela Petro
yn sgwrsio efo Mike Parker

20 - 10 - 21
6:30
Lle Arall - Llety Arall
Dewch i ddathlu cyhoeddi

Stafelloedd Amhenodol
Iestyn Tyne
a
Merch y Llyn
Grug Muse

Digwyddiad Byw

Digwyddiad Rhithiol

23 - 10 - 21
2:00
Gerddi'r Emporiwm - Palas Print
Dewch i ddathlu cyhoeddi

Sara Mai a Lleidr y Neidr
Casia Wiliam
Darlleniad gan casia Wiliam. cyfle i afael mewn neidr  go iawn

Cofrestru




Mae'n rhaid cofrestru

25/09/21, 12:00

Sesiwn lofnodi!
Hela
gan
Aled Hughes
Palas Print
yn yr ardd
Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi:
eirian@palasprint.com

25/09/21, 2:00

Sesiwn lofnodi!
Pum Diwrnod a Phriodas
gan
Marlyn Samuel
Palas Print
yn yr ardd
Os na allwch chi alw heibio ar y diwrnod, mae crroeso ichi gysylltu o flaen llaw i archebu copi wedi ei lofnodi:
eirian@palasprint.com

18/09/21, 5:30pm
Dathlu cyhoeddi, yn fyw ac yn rhithiol
The Welsh Way

10/06/21, 7.30pm

Palas Print a Honno Welsh Women's Press yn cyflwyno

Noson rithiol i ddathlu cyhoeddi Emmet and Me gyda'r awdur Sara Gethin a Mairéad Hearne.
Bydd Sara yn sgwrsio gyda Mairéad Hearne, sy'n rhedeg blog llyfrau poblogaidd iawn Swirl and Thread am ei nofel newydd ddifyr Emmet and Me. Stori bwerus a theimladol am ddau blentyn a chyfeillgarwch mewn amgylchiadau caled, wedi'i osod yn Connemara yw Emmet and Me.

Nos Iau, Mehefin 10, 7.30pm
yn Fyw dros Zoom
am ddim wrth brynu copi wedi ei lofnodi (bookplate), neu £3 am y digwyddiad yn unig
(gellir adennill y £3 wrth brynu copi o'r llyfr o Palas Print ar ôl y digwyddiad)

Digwyddiad a llyfr £8.99 Digwyddiad yn unig £3 Llyfr yn unig £8.99

Wedi bod

Englishness
Richard Wyn Jones a
Liz Saville Roberts AS
08 - 04 - 21
7:00
Rhithiol

Darlleniadau

Perl
Bet Jones

Prynu

Dwi isio bod yn....
Huw Jones

Taith drwy fywyd Huw Jones, gyda digwyddiadau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol o bwys yn gefndir i’r cwbl. Ceir hanes ei fagwraeth yng Nghaerdydd a'i ddyddiau yn Rhydychen. Mae'n hel atgofion am ei yrfa gerddorol ac am sefydlu Sain, ac mae'n croniclo’r cyfnodau o weithio ym myd teledu ac yn arbennig ei gyfnod yn Brif Weithredwr S4C.

Prynu

Ymbapuroli
Angharad Price

Prynu

On the Red Hill
Mike Parker

Prynu

Sw Sara Mai

Casia Wiliam

Prynu

Adnabod
Gwion Hallam

Prynu

Ymbapuroli
Angharad Price
03/10/20

Sgwrs rhwng Angharad Ptice a Menna Baines

Prynu

ADNABOD
Gwion Hallam
21 - 07 - 20
6:00
Rhithiol

Prynu

Cofrestru

Digwyddiadau diweddar

Cynhalwyd nifer o ddigwyddiadau ar lein yn ystod wythnos siopau llyfrau annibynnol ac isod mae recordiadau or digwyddiadau. mwynhewch
Byddwn yn trefnu mwy o ddigwyddiadau rhithiol maes o law.

Casia Wiliam | Sw Sara Mai

Sw Sara Mai
Casia Wiliam

Prynu

Mike Parker | On the Red Hill
efo Jon Gower yn holi

On the Red Hill
Mike Parker

Prynu

17/09/21, 6:00pm
Live book launch

Booking essential eirian@palasprint.com

18/09/21, 5:30pm
Live and Virtual book launch

Booking essential eirian@palasprint.com

10/06/21, 7.30pm

Palas Print and Honno Welsh Women's Press present

A virtual evening to celebrate publication of Emmet and Me with author Sara Gethin and Mairéad Hearne. Sara, previously shortlisted for the Not the Booker and Waverton Good Read Award, is live with Mairéad Hearne, the hugely popular Swirl and Thread Book Blogger. Emmet and Emmet and Me, is a deeply affecting story of two young children in 1960s Connemara. It vividly evokes the harsh conditions in Ireland’s controversial industrial schools, as well as telling the story of a life-changing friendship.

Thursday, June 10th, 7.30pm
A Live Stream Event
Free access to the event when you buy a signed (bookplate) copy from Palas Print
or £3 for the event only

Event and book £8.99 Event only £3 Book only £8.99

Casia Wiliam | Sw Sara Mai

Sw Sara Mai
Casia Wiliam

Buy

Jon Gower | The Murenger

The Murenger
Jon Gower

Buy

Bet Jones | Perl

Perl
Bet Jones

Buy

21 - 01 - 21
Clwb Darllen Difyr
Blwyddyn 5 a 6

21 - 01 - 20
Pnawn dydd Mawrth
4.00 - 4.45
Palas Print
Clwb Darllen Difyr blwyddyn 5 a 6
Croeso i aelodau newydd. Os wyt ti'n blwyddyn 5 neu 6 ac wedi darllen y llyfr, beth am ddod i drafod?

22 - 01 - 20
Clwb Darllen

Blwyddyn 7

22 - 01 - 20
Pnawn dydd Mercher
4.00 - 4.45
Palas Print
Clwb Darllen blwyddyn 7
Croeso i aelodau newydd. Os wyt ti'n blwyddyn 7 ac wedi darllen y llyfr, beth am ddod i drafod?

09 - 12 - 19
Dathlu Cyhoeddi
Ceidwad y Mynydd
Aled 'Coch' Taylor

09 - 12 - 19
Dydd Llun
7.30
Llety Arall
Caernarfon
Dei Tomos yn holi Aled am y gyfrol a'i anturiaethau

30 - 11 - 19
Dathlu Cyhoeddi
Llyfr Adar Mawr y Plant
Onwy Gower

30 - 11 - 19
Dydd Sadwrn
2.00
Palas Print
Sesiwn holi ac ateb gyda'r awdur
Onwy Gower
Gweithdy celf gyda'r arlunydd Ffion Gwyn