Wrth glywed am a gwylio digwyddiadau erchyll yn America (unwaith eto), dyma feddwl, pa lyfrau sy yn y siop yn ymwneud â hiliaeth... oes 'na ddewis yno, ta ydw innau'n euog o anwybyddu hiliaeth yn ein cymdeithas heddiw? Sgan sydyn ar y silffoedd, a gweld bod gennym ddewis o lyfrau gan awduron o bob rhan o'r byd, sydd yn, gobeithio, dathlu amrywiaeth, herio hiliaeth, ac yn cynnig cyfle i ni gyd ddysgu mwy... dyma dwsin o lyfrau i blant ac oedolion, yn ffuglen a ffaith, yn Gymraeg a Saesneg i roi blas o rhai pethau sy gennym....
Gyda'n gilydd
Stori bositif sy'n dathlu amrywiaeth a phwysleisio cynnwys a pharchu pawb
Hanes dirdynnol yr awdur yn ymchwilio ac olrhain hanes ei gyndeidiau o'r cipio o Affrig fel caethweision twodd i'r ganrif dwethaf efo , trais a chreulondeb hiliaeth yn gweu trwy'r cyfan.
Mae ffurf wahanol y nofel hon yn herio'r darllenydd o'r cychwyn, ond mae hanesion 12 o ferched yn cydblethu ynddi yn ddarlun byw o fywydau merched groen tywyll ym Mhrydain heddiw
Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.
Dewis bychan iawn ydi hwn. Pwt i roi blas o beth sy ar gael yn y siop. Gallwch eu prynu yma, neu cysylltwch ar ebost i holi am lyfrau eraill...
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad. Byddwn yn cymeryd eich bod chi'n iawn gyda hyn, ond gallwch ddewis allan os dymunwch.DerbynDarllen Mwy