Paratowyd y rhestr yma i ddathlu diwrnod Miwsig Cymru 2021 i ddathlu ein cerddoriaeth. Isod mae detholiad o lyfrau feinyl a Cds

Merched
Y Chwyldro
Hanes y merched oedd yn canu pop yng Nghymru yn y 60u a'r 70au (yn cynnwys 2 CD).

100 o Ganeuon Pop
Llyfr bach hylaw yn cynnwys 100 o ganeuon pop Cymraeg mwyaf poblogaidd y deugain mlynedd diwethaf ar ffurf alawon, geiriau a chordiau gitâr syml. Mae'n cynnwys caneuon oesol fel 'Pishyn', 'Calon', 'Tŷ ar y Mynydd', 'Trôns dy Dad' a 'Lisa, Majic a Porfa'. Cyfrol angenrheidiol i bawb sy'n hoffi canu.

American Interior
Gruff Rhys
Dyddiadur taith hanesyddol a seicedelig y cerddor Gruff Rhys wrth iddo deithio i'r Amerig yn 2012 gan ddilyn ôl troed John Evans, y Cymro ifanc o Eryri a deithiodd i'r wlad i chwilio am y gwirionedd am lwyth o frodoion Cymraeg y tybid eu bod yn byw ar y gwastatiroedd eang.

Resist Phony Encores
Gruff Rhys
Resist Phony Encores! is a selective memoir in the form of graphics, images, and mass communications by musician Gruff Rhys. Rhys weaves anecdotes from his life in performance through designer and long-term collaborator Mark James’ xeroxed graphics and doctored photos, as well as cue cards, which—for the past 15 years—Rhys has used as a part of his live performances.

Serch a'i Helynt
Meredydd Evans
Mae'r llyfr hwn yn dadansoddi detholiad o ganeuon gwerin serch Cymraeg, gan sylwi ar eu cefndir, yr amrywiadau a geir ynddynt o ran geiriau ac alaw, a'r hyn y maent yn ei ddangos am y traddodiad gwerin Cymraeg.

Wesh Tradditional Music
Phyllis Kinney
Argraffiad clawr meddal o gyfrol ddarluniadol hardd yn olrhain hanes cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar hyd yr oesoedd, ynghyd â thros 200 o enghreifftiau cerddorol. Ysgrifennwyd gan Phyllis Kinney, cantores opera broffesiynol, athrawes ganu, darlithydd a chymrawd o Brifysgol Bangor.

Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru
Cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru. Tros 500 o gofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o gantorion gwerin i gerddorfeydd.

Nôl
Ryland Teifi
Atgofion drwy ganeuon Ryland Teifi. Mae Ryland Teifi yn un o'n cyfansoddwyr a'n perfformwyr mwyaf talentog a phoblogaidd, gyda'i ganeuon yn cyfuno'r gwerinol/cyfoes Cymreig.
Feinyl a Cds
Cds

Colorama
Temari (Cd)

Geraint Lovgreen a'r enw da
Mae'r Haul wedi dod (Cd)