
Meddwl am Man U
Rhodri Jones
Dechreuodd Rhodri ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol ifanc yn Man U rhwng 1996 a 2000. Chwaraeodd i Rotherham ac yn Uwch Gynghrair Cymru i Gwmbrân a Chaerfyrddin, cyn ymddeol yn dilyn anafiadau i’w ben-glin. Yn y gyfrol hon, olrheinir obsesiwn plentyn â phêl-droed a cheir hanesion rhyfeddol am gyrraedd yr uchelfannau pan gafodd ei arwyddo gan un o glybiau mwya'r byd.

Academi Pel-Droed
Gyda'n Gilydd
Mae Jake Oldfield yn bêl-droediwr dawnus sy'n chwarae i'r tîm lleol. Er ei fod yn fychan o gorff, mae'n breuddwydio y caiff, ryw ddydd, wireddu ei freuddwyd o chwarae i dîm o safon uwch. Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: Boys United, sy'n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion.

Academi Pel-Droed
Dim Chwarae
Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: The Real Thing, sy'n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion. Mae Tomas, y gôl-geidwad ifanc, wrth ei fodd yn dychwelyd i Wlad Pwyl, ei wlad enedigol, i chwarae mewn twrnameint rhyngwladol, ond gall gwrthdaro rhyngddo ef a'i gapten fygwth llwyddiant y tîm.

Fi ac Aaron Ramsey
Manon Steffan Ros
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae eu perthynas fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.

Fi a Joe Allen
Manon Steffan Ros
Does gan Marc ddim perthynas dda iawn â'i dad, ond mae'r ddau'n mynd efo'i gilydd bob dydd Sadwrn i weld tîm Dinas Bangor. Mae'r bachgen (Marc, ar ôl Mark Hughes) yn datblygu obsesiwn efo Joe Allen, sydd, ym meddwl Marc, yn debyg i'w dad. Mae Marc a'i dad yn mynd ar eu gwyliau cyntaf gyda'i gilydd i Ffrainc i weld Cymru'n chwarae, a dyma lle mae'r ddau yn dod i adnabod ei gilydd yn iawn.

Pel-Droed Cymru
Welsh Football
Cyfrol ysgafn yn llawn gwybodaeth ddifyr ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn, o'r maes rhyngwladol (dynion a merched) i'r prif glybiau Cymreig a'r gwahanol gystadlaethau, yn cynnwys: y chwaraewyr, y rheolwyr a'r dyfarnwyr; y digwyddiadau mawr; y gemau cofiadwy: y gwych a'r gwachul. Mae'r gyfrol yn cynnwys un ffaith diddorol ar gyfer pob un diwrnod o'r flwyddyn.

Y Crysau Cochion
Gwynfor Jones
O Ivor Allchurch i Eric Young, dyma lyfr cynhwysfawr yn nodi manylion pob chwaraewr sydd wedi derbyn cap i Gymru yn ystod y saith deg mlynedd diwethaf. Mae'n cynnwys ystadegau cyflawn yn ogystal â storïau lliwgar am lawer o'r chwaraewyr, yn cynnwys sêr Cymru Ewro 2016. Llyfr hanfodol i bob cefnogwr pêl-droed ac anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig.

Malcolm Allen
Hunangofiant
Hunangofiant y chwaraewr pêl-droed a'r sylwebydd poblogaidd Malcolm Allen o Ddeiniolen. Fel pêl-droediwr cafodd ei wrthod gan Ron Atkinson, a dybiai ei fod yn rhy fach, ond cafodd gyfle yn Watford o dan Graham Taylor a chwaraeodd i Norwich, Oldham ac yna i Newcastle o dan Kevin Keegan. Enillodd 14 cap dros Gymru. Ysgrifennwyd ar y cyd â Geraint Jones.