Llyfr Sticeri Pel droed
Containing over 300 stickers, this sticker book features football scenes including a crowd of supporters, a corner kick, team training and the victory parade. A Welsh adaptation of Football Sticker Book (Usborne, 2010).
Red Dragons
Red Dragons covers the story of Welsh football since its earliest days in the nineteenth century, and looks at the characters, controversies and developments of the country's clubs, players, and most importantly, the national team - including a chapter on the journey to the Euro 2016 tournament.
Pel-Droed Cymru
Welsh Football
An easy-read volume full of entertaining footballing facts for every day of the year, from international level (men and women) to the main Welsh clubs and competitions, comprising: players, managers and referees; big occasions; memorable games; the magnificent and feeble! The fully bilingual book comprises one interesting fact for each day of the year.
Ultimate Football Heroes
Bale
Gareth Bale: The Boy Who Became a Galactico tracks the Welsh wizard's impressive rise from talented schoolboy to Real Madrid star. This is the inspiring story of how Bale beat the odds and became the most expensive player in football history.
Alun the Bear and the Football Match
Alun the Bear has been chosen to represent Wales as a member of the Welsh football team, but he does not play well! He decides to become a referee but how will he fare with the responsibility?
The Welsh Football
Quiz Book
A 20 chapter quiz book on all things about Welsh International Football. The chapters include: Gareth Bale, Bad Boys, Meet the Managers, 1976 and all that, The Gentle Giant, From Jack to a Dragon, Gary Speed, and much more.
Alun yr Arth a'r Gem Bel-Droed
Morgan Tomos
Mae Alun wedi cael ei ddewis i ymarfer gyda thîm pêl-droed Cymru. Ond dyw e ddim yn chwarae'n dda iawn felly mae'n penderfynu bod yn ddyfarnwr. Ond sut ddyfarnwr yw Alun tybed? Dyma'r 24ain yng nghyfres boblogaidd Alun yr Arth.
Meddwl am Man U
Rhodri Jones
Dechreuodd Rhodri ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol ifanc yn Man U rhwng 1996 a 2000. Chwaraeodd i Rotherham ac yn Uwch Gynghrair Cymru i Gwmbrân a Chaerfyrddin, cyn ymddeol yn dilyn anafiadau i’w ben-glin. Yn y gyfrol hon, olrheinir obsesiwn plentyn â phêl-droed a cheir hanesion rhyfeddol am gyrraedd yr uchelfannau pan gafodd ei arwyddo gan un o glybiau mwya'r byd.
Academi Pel-Droed
Gyda'n Gilydd
Mae Jake Oldfield yn bêl-droediwr dawnus sy'n chwarae i'r tîm lleol. Er ei fod yn fychan o gorff, mae'n breuddwydio y caiff, ryw ddydd, wireddu ei freuddwyd o chwarae i dîm o safon uwch. Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: Boys United, sy'n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion.
Academi Pel-Droed
Dim Chwarae
Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: The Real Thing, sy'n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion. Mae Tomas, y gôl-geidwad ifanc, wrth ei fodd yn dychwelyd i Wlad Pwyl, ei wlad enedigol, i chwarae mewn twrnameint rhyngwladol, ond gall gwrthdaro rhyngddo ef a'i gapten fygwth llwyddiant y tîm.
Brenin y Trainyrs
Pryderi Gwyn Jones
ADIDAS, NIKE, PUMA, VANS, CONVERSE, REEBOK… Dyma stori am fachgen sydd wrth ei fodd efo trenyrs! Wir yr! Mae o'n ysu am gael pâr o'r trenyrs Adidas gorau sydd yn siop 'sgidiau fwyaf cŵl y dre, Foot Locker.
Kaiser y Trenyrs
Pryderi Gwyn Jones
Dilyniant i Brenin y Trenyrs.
Fi ac Aaron Ramsey
Manon Steffan Ros
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae eu perthynas fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.
Fi a Joe Allen
Manon Steffan Ros
Does gan Marc ddim perthynas dda iawn â'i dad, ond mae'r ddau'n mynd efo'i gilydd bob dydd Sadwrn i weld tîm Dinas Bangor. Mae'r bachgen (Marc, ar ôl Mark Hughes) yn datblygu obsesiwn efo Joe Allen, sydd, ym meddwl Marc, yn debyg i'w dad. Mae Marc a'i dad yn mynd ar eu gwyliau cyntaf gyda'i gilydd i Ffrainc i weld Cymru'n chwarae, a dyma lle mae'r ddau yn dod i adnabod ei gilydd yn iawn.
Ffan Bach
Pel droed Cymru
Mae'r ffan bach o Gymru yn cael cyfle i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae mewn gêm fawr! Stori i blant 3-5 oed.
Y Crysau Cochion
Gwynfor Jones
O Ivor Allchurch i Eric Young, dyma lyfr cynhwysfawr yn nodi manylion pob chwaraewr sydd wedi derbyn cap i Gymru yn ystod y saith deg mlynedd diwethaf. Mae'n cynnwys ystadegau cyflawn yn ogystal â storïau lliwgar am lawer o'r chwaraewyr, yn cynnwys sêr Cymru Ewro 2016. Llyfr hanfodol i bob cefnogwr pêl-droed ac anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig.
Malcolm Allen
Hunangofiant
Hunangofiant y chwaraewr pêl-droed a'r sylwebydd poblogaidd Malcolm Allen o Ddeiniolen. Fel pêl-droediwr cafodd ei wrthod gan Ron Atkinson, a dybiai ei fod yn rhy fach, ond cafodd gyfle yn Watford o dan Graham Taylor a chwaraeodd i Norwich, Oldham ac yna i Newcastle o dan Kevin Keegan. Enillodd 14 cap dros Gymru. Ysgrifennwyd ar y cyd â Geraint Jones.
Allez Les Gallois!
Daniel Davies
Ffrainc; Mehefin 2016. Mae Delyth Welsh yn edrych ymlaen at wyliau carafân hamddenol yn Ffrainc, yn mwynhau'r gwin, yr haul a'r awyrgylch… ond rhywbeth arall yn hollol sydd ar feddwl ei gŵr, Les.