Siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a'r byd.
Oriau Agor
Mae'r siop ar agor rhwng 10 a 5 dydd Mawrth i ddydd Sadwrn.
Am y tro byddwn yn adolygu'r oriau agor o fis i fis, gan gymryd i ystyriaeth canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac amgylchiadau lleol o ran Covid-19, a byddwn yn anfon elythyr o leiaf unwaith y mis i'ch hysbysu o unrhyw newidiadau.
Croeso i chi ddod i fewn i'r siop, i grwyrdo o gwmpas, i dynnu llyfrau oddi ar y byrddau a'r silffoedd i edrych arnynt.
- Os 'da chi wedi derbyn Tocyn Anrheg Palas Print, Tocyn Llyfr Cyngor Llyfrau neu National Book Token, croeso i chi eu gwario yn y siop - da ni'n derbyn pob un! Ac os am awgrymiadau, croeso i chi edrych ar ein gwefan, ar y 10 Uchaf a'r rhestrau eraill ar ein gwefan... neu, wrth gwrs, anfonwch neges i eirian@palasprint.com yn nodi llyfrau da chi wedi mwynhau yn ddiweddar a gwerth y tocyn ac mi wnawn ein gorau i’ch helpu i ddewis rhywbeth.
- Os 'da chi eisiau checio os oes rhywbeth mewn stoc cyn ymweld â'r siop, croeso i chi archebu arlein o palasprint.com, neu ebostio eirian@palasprint.com, neu ffonio'r siop a gadael neges (mi wnawn ein gorau i ymateb yn brydlon).
- Os ydych chi'n hunanynysu neu yn 'shieldio', neu yn bryderus ynghylch ymweld â'r siop, croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio neu ffonio'r siop, ac mi wnawn ein gorau i'ch helpu.
Eirian a Sel
Cadwch yn saff, dalwch ati i ddarllen, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i'r siop cyn bo hir...
Archebu
Croeso i chi archebu fel a ganlyn...
- ar lein - os da chi'n gwybod yn union be da chi eisau, dyma'r ffordd mwyaf hwylus i archebu'r llyfrau SIOP
- dros y ffôn 01286 674631 (dydd Mawrth i Sadwrn 10:00 - 16:00)
- trwy e bost eirian@palasprint.com - os oes gennych gwestiwn, neu angen help i ddewis rhywbeth addas
- neges facebook /twitter/instagram
Talu
Rhaid talu cyn casglu. Gallwch dalu n
- dros y ffôn 01286 674631
- ar lein pan yn archebu o'r wefan
Dosbarthu/Casglu
Byddwn yn cysylltu pan mae eich archeb yn barod i drefnu taliad a threfnu cael y llyfrau i chi. NID yw'n bosib talu wrth y drws.
Os yn casglu, dylid gwneud fel rhan o dro dyddiol neu taith siopa hanfodol. Mi wnawn ein gorau i 'ch galluogi i gasglu ar amser sy'n gyfleus i chi.
- byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth dosbarthu i'ch cartref o fewn Caernarfon
-byddwn hefyd yn parhau i gynnig gwasanaeth postio,
Am y wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Palas Print
Amser Cysylltu a Chasglu
Dydd Mawrth i Sadwrn 10 - 14:00
Byddwn yn ateb y ffôn / ymateb i ebyst / prosesu archebion rhwng 10 a 2 Mawrth - Sadwrn.
Os nad ydym yn ateb y ffôn, gadewch neges ac mi ddown ni nol atoch gynted ag y medrwn ni
Cysylltwch â ni ar 01286 674631 os oes angen gwneud trefniant tu allan i'r oriau hyn i gasglu.
Credwn yn gryf mai iechyd, lles a diogelwch ein cymuned yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn credu mai pwyll piau hi ar hyn o bryd. Rydym yn gwneud hynny fedrwn ni i weithredu mewn ffordd diogel er ein lles ni i gyd yn y tymor byr, ac yn y tymor hir.
Cadwch yn saff, dalwch ati i ddarllen, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i'r siop cyn bo hir...
Cofiwch y gallwn anfon tocyn anrheg i unrhyw gyfeiriad y dymunwch!