Cyfrinachau Ystumllyn

Nofel hanesyddol gyfoethog ar gyfer oedolion sy'n dilyn stori'r Capten Lewis Morgan a'i anturiaethau, a hanes unigolion sydd â chysylltiad ag ystâd Ystumllyn, Cricieth. Mae hi'n ymdrin â themâu sy'n berthnasol heddiw - perthyn, clymau, hunaniaeth, cenedlaetholdeb, hiliaeth a newid mewn oesau gwahanol.

Cig a Gwaed

Mae sgerbydau teuluol fel arfer yn cael eu cadw yn y cwpwrdd, ond mae sgerbwd teulu'r Bartis â'i draed yn rhydd. Nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn ac ennill gwobr Barn y Bobl â'i nofel ddiwethaf, "Lladd Duw". Mae "Cig a Gwaed" yn nofel gignoeth sy'n holi ydi gwaed yn dewach na dŵr mewn gwirionedd.


Tudalennau Canlyniadau:  1  Dangos 1 i 2 (o 2 teitl)