×

£8.99

Fabula
[9781784614010]

Fabula
Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth a Bro Morgannwg: dyna rai o'r lleoedd y mae gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt. Cânt eu galw'n nes at ddiddymdra wrth hofran yn y trwch adain gwybedyn sydd rhwng hanes a stori. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi'n wirionedd, a ffaith yn freuddwyd.
Adolygiadau