×

£7.00

Ystlum
[9781838198954]

Ystlum
Dyma ddilyniant o gerddi cyfarwydd a newydd sy’n dilyn cylch blwyddyn – gan ddechrau o dorcalon yr Hydref drwy fisoedd bach y gaeaf, at dyfiant y Gwanwyn a hyder haf. Mae’n gasgliad tyner a thlws sy’n ymrafael â manylion y profiad o fod yn fenyw ifanc – rhwng cymhlethdod perthnasau, colled, cyfeillgarwch, tinder, cof capel, teithio’r byd a darganfod llonyddwch yng nghylchdro’r tymhorau. Mae Elen wedi bod yn cyhoeddi ei barddoniaeth ar y cyfrif instagram @ystlum ers 2019. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd, yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn dal i weithio ar ei gardd.
Adolygiadau