Dewch am dro gyda Sali Mali a'i ffrindiau i ddarganfod rhyfeddodau byd natur. Dyma lyfr gwreiddiol sy'n rhoi'r cyfle i blant fwynhau ac ymuno gyda Sali Mali a'i ffrindiau wrth iddyn nhw ddarganfod cyfrinachau a ffeithiau difyr am bob math o greaduriaid, coed a phlanhigion yng Nghymru.