Argymhellion
Llyfr bwrdd bywiog syn dilyn diwrnod ar fferm Cae Berllan wrth i Cadi a Jac ar darllenwr ddysgu dweud yr amser. Mae pob tudalen yn dangos gweithgaredd gwahanol, yn ogystal â'r amser pan fo'r gweithgaredd yn cael ei gwblhau. Gall y darllenydd droi'r bysedd ar wyneb y cloc er mwyn dangos yr amser.
Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?
Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.
Dyma lyfr arall yn y gyfres boblogaidd am Cadi, y ferch fach ddireidus. Mae Cadi yn gwneud rhywbeth ofnadwy i Mabon, ei brawd bach ac mae'n rhaid iddi ofyn am help gan y gwrachod. Ond yn gyntaf, rhaid i Cadi eu helpu nhw. Stori berffaith ar gyfer Noson Calan Gaeaf!
Os ei di ir Wladfa, rwyt tin siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt tin sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb syn blasur ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia wyt ti eisiau clywed pam?