Ond ni ddes adren waglaw, o'r gwyliau ger y lli, roedd cragen yn fy mhoced a rhywbeth ynddi hi. Dyma stori am blentyn o'r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae'r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu'n un. Stori mewn mydr ac odl.
Argymhellion
Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.
Dyma'r llyfr perffaith i helpu pob Poenisawrws bychan i ddod dros eu hofnau ac i fod yn hapus yn y foment.
Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae'n dweud wrth ei fam am y synau o'i gwmpas mae hi'n ei atgoffa 'Pan na fyddi di'n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!' Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod? Addasiad Cymraeg Mererid Hopwood o Lord of the Forest.