Siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a'r byd.
Diolch
Ar hyn o bryd, mae'r siop ar agor tu ôl i ddrysau caeedig.
Gallwch ddal i archebu llyfrau arlein neu dros y ffôn, a 'da ni'n dosbarthu, postio neu drefnu i chi gasglu eich parsel gan ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Croeso i chi ffonio'r siop ar 01286 674631 rhwng 10 a 2 dydd Mawrth i Sadwrn i drafod unrhyw ymholiad sydd gennych am lyfrau, cardiau neu CDs, ac mi wnawn ein gorau i'ch helpu. Gallwch anfon ebost unrhywbryd, ac mi wnawn ein gorau i ddown yn ôl atoch gynted medrwn ni. Gallwch hefyd anfon neges drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a gwnawn ein gorau i ymateb yn brydlon.
Cadwch yn saff, dalwch ati i ddarllen, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i'r siop cyn bo hir...
Archebu
Croeso i chi archebu fel a ganlyn...
- ar lein - os da chi'n gwybod yn union be da chi eisau, dyma'r ffordd mwyaf hwylus i archebu'r llyfrau SIOP
- dros y ffôn 01286 674631 (dydd Mawrth i Sadwrn 10:00 - 14:00)
- trwy e bost eirian@palasprint.com - os oes gennych gwestiwn, neu angen help i ddewis rhywbeth addas
- neges facebook /twitter/instagram
Talu
Rhaid talu cyn casglu. Gallwch dalu n
- dros y ffôn 01286 674631
- ar lein pan yn archebu o'r wefan
Dosbarthu/Casglu
Byddwn yn cysylltu pan mae eich archeb yn barod i drefnu taliad a threfnu cael y llyfrau i chi. NID yw'n bosib talu wrth y drws.
Os yn casglu, dylid gwneud fel rhan o dro dyddiol neu taith siopa hanfodol. Mi wnawn ein gorau i 'ch galluogi i gasglu ar amser sy'n gyfleus i chi.
- byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth dosbarthu i'ch cartref o fewn Caernarfon
-byddwn hefyd yn parhau i gynnig gwasanaeth postio,
Am y wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Palas Print
Amser Cysylltu a Chasglu
Dydd Mawrth i Sadwrn 10 - 14:00
Byddwn yn ateb y ffôn / ymateb i ebyst / prosesu archebion rhwng 10 a 2 Mawrth - Sadwrn.
Os nad ydym yn ateb y ffôn, gadewch neges ac mi ddown ni nol atoch gynted ag y medrwn ni
Cysylltwch â ni ar 01286 674631 os oes angen gwneud trefniant tu allan i'r oriau hyn i gasglu.
Byddwn yn y siop ar gyfer archebu, ar gyfer cyngor neu ar gyfer gasglu.
10 -2 dydd Mawrth - Sadwrn.
Credwn yn gryf mai iechyd, lles a diogelwch ein cymuned yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn credu mai pwyll piau hi ar hyn o bryd. Rydym yn gwneud hynny fedrwn ni i weithredu mewn ffordd diogel er ein lles ni i gyd yn y tymor byr, ac yn y tymor hir.
Cadwch yn saff, dalwch ati i ddarllen, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl i'r siop cyn bo hir...
Cofiwch y gallwn anfon tocyn anrheg i unrhyw gyfeiriad y dymunwch!